Nemesis (mytholeg)

Ym mytholeg Roeg, duwies sy'n cosbi balchder a thraha yw Nemesis. Mae hi'n cynrychioli math o ddial dwyfol neu adsefydlu'r drefn naturiol ar ôl iddi gael ei gwrthdroi gan lwc da eithriadol. Yn ôl yr awdur Groeg Hesiod, mae hi'n ferch i'r dduwies Nos a adawodd y ddaear, gyda Aidos, duwies Gwyleidd-dra, ar ddiwedd yr Oes Aur.

Nemesis
Enghraifft o'r canlynolOkeanid, duw Groeg Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Nemesis adeiniog yn dal Olwyn Ffawd: cerflun Rhufeinig, o tua 150 OC
Gweler hefyd Nemesis (gwahaniaethu).

Roedd ei chwlt yn arbennig o gryf yn ardal Rhamnus yn Attica, ac fe'i gelwir weithiau "y dduwies Rhamnusiaidd" o'r herwydd. Yn Rhamnus credid ei bod yn ferch i Okeanos, duw'r môr. Dywedir y cerfiodd yr arlunydd enwog Phidias gerflun ohoni allan o ddarn o farmor roedd y Persiaid wedi dwyn i faes Marathon i godi allor i'w buddugoliaeth ddisgwyliedig: ond y Groegiaid a enillodd y dydd felly priodol oedd gwneud cerflun o Nemesis gyda'r garreg a'i osod yn ei theml yn Rhamnus.

Cafodd ei chwlt le ym mhantheon y Rhufeiniaid yn nes ymlaen. Mae cerfluniau Rhufeinig yn ei phortreadu fel morwyn fyfyrgar sy'n dal Olwyn Ffawd a/neu symbolau o reolaeth a chymesuredd (e.e. fflangell a ffon mesur). Mae ei adenydd yn cynrychioli cyflymder.

Cedwir ei henw o hyd yn y dywediad "mae wedi cwrdd â'i nemesis."

Ffynhonnell golygu

  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902; sawl argraffiad ar ôl hynny).