Gwleidydd Cymreig yw (Elizabeth Gwendoline) Nerys Evans (ganed 1980). Bui’n aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynrychioli Plaid Cymru yn rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru rhwng 2007 a 2011. Cafodd ei dethol fel ymgeisydd ar gyfer sedd Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ar gyfer etholiad 2011 Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ond daeth yn drydydd.

Nerys Evans
Nerys Evans


Cyfnod yn y swydd
3 Mai 2007 – 5 Mai 2011
Rhagflaenydd Helen Mary Jones
Olynydd Simon Thomas

Geni 1980
Llangain, Sir Gaerfyrddin
Plaid wleidyddol Plaid Cymru
Alma mater Prifysgol Manceinion
Prifysgol Caerdydd

Cefndir golygu

Ganed Nerys Evans yn Llangain ger Caerfyrddin. Derbyniodd ei haddysg ym Mhrifysgol Manceinion lle derbynniodd radd B.A. mewn Theori Lywodraethol a Gwleidyddol. Aeth yn ei blaen wedyn i dderbyn gradd M.Sc. mewn Gwleidyddiaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2004.[1]

Gyrfa Wleidyddol golygu

Cychwynodd ei gyrfa fel trefnydd i Blaid Cymru in Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a gweithiodd fel swyddog y wasg dros Blaid Cymru yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin. Cyn cychwyn gwaith fel Swyddog Gwleidyddol Plaid Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.

Dewiswyd Nerys i gynrychioli rhanbarth Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ar gyfer Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007. Ar ddiwrnod yr etholiad cymerodd Nerys sedd Helen Mary Jones, a aeth yn ei blaen i ad-ennill sedd etholaeth Llanelli.

Ym mysg ei diddordebau gwleidyddol, mae Nerys yn weithgar mewn materion gwledig, hawliau gweithwyr, iechyd a rhwystro trais yn y cartref. Hi yw llefarydd Plaid Cymru ar addysg. Mae Nerys yn gadeirydd y grwpiau trawsbleidiol ar gyfer epilepsi a bandllydan yng nghefn gwlad Cymru ac mae hi’n eistedd ar y Pwyllgor Menter a Dysgu. Yn 2008 enillodd Nerys gystadleuaeth ITV Wales yn y categori ‘Ymgyrchydd y Flwyddyn’ am ei gwaith ymgyrchu yn erbyn trais yn y cartref. Yn ei amser hamdden mae Nerys yn mwynhau cefnogi tim rygbi Sgarlets Llanelli.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Bywgraffiad ar Wefan Plaid Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-04-17. Cyrchwyd 2010-12-05.

Dolenni allanol golygu

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
Helen Mary Jones
Aelod Cynulliad dros Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru
20072011
Olynydd:
Simon Thomas