New Inn, Sir Gaerfyrddin

pentref yn Sir Gaerfyrddin

Pentref bychan yn Sir Gaerfyrddin yw New Inn (ymddengys nad oes enw Cymraeg arno). Fe'i lleolir yng ngogledd canolbarth y sir ar y ffordd A485 tua 12 milltir i'r gogledd o dref Caerfyrddin, hanner ffordd rhwng y dref honno a Llanbedr Pont Steffan. Yng Nghyfrifiad 2011, poblogaeth New Inn oedd 348.[1] Mae'n rhan o blwyf eglwysig Llanfihangel-ar-Arth.

New Inn, Sir Gaerfyrddin
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Yn ffinio gydaLlanfihangel-ar-Arth Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.0085°N 4.2271°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN473367 Edit this on Wikidata
Map

Hanes golygu

Datblygodd y pentref ar groesffordd o ffordd Rufeinig Sarn Helen a llwybr pwysig (ffordd y porthmyn yn ddiweddar). Roedd y pentref yn ganolfan fasnachol erbyn canol y 19g, gyda siop gyffredinol (oedd yn allforio meintiau enfawr o fenyn a pheth caws i ddociau Caerfyrddin), tair tafarn a gwesty pwysig The Traveller's Rest. Dirywiodd economi'r pentref yn dilyn agor rheilffordd ym mhentref cyfagos Pencader.[2]

Agorodd yr ysgol gymunedol yn y pentref yn 1881. Yn y degawd diwethaf bu gostyngiad sylweddol yn nifer y disgyblion a gofrestrodd yn yr ysgol a cheuwyd yr ysgol yn 2007.[3]

Nawr mae’r pentref yn cynnwys capel, gwerthwr peiriannau amaethyddol, cwmni peirianneg, fferm laeth, a threfnydd teithiau.

Trafnidiaeth golygu

Lleolir y pentref ar y briffordd A485 sy'n ei gysylltu i'r trefi cyfagos o Gaerfyrddin a Llanbedr Pont Steffan. Mae nifer o lwybrau troed cyhoeddus sy'n ei gysylltu i'r trefi cyfagos o Wyddgrug a Phencader.

Mae'r gwasanaeth bws TrawsCymru T1, sy'n dechrau yn Llambed a diwedd yng Nghaerfyrddin yn stopio bob awr yn y pentref. Mae'r bws 701, sy'n ddiwedd yng Nghaerdydd yn stopio bob dydd.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yn ôl y Cyfrifiad 2011, gall 212 o'r 316 preswylwyr (dros 3 oed) deall siarad Cymraeg llafar (63%). Dangosodd y cyfrifiad bod 195 preswylwyr (58%) yn gallu siarad Cymraeg. Y poblogaidd yn 2001 oedd 306, sy'n awgrymu cynnydd. Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth New Inn (pob oed) (348)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (New Inn) (199)
  
57.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (New Inn) (228)
  
65.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (New Inn) (186)
  
71.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Gwall cyfeirio: Tag <ref> annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw population
  2. Gwefan Pencader a'r Cylch, New Inn
  3. "MODERNEIDDIO'R DDARPARIAETH ADDYSG - CAU ARFAETHEDIG AR YSGOL GYNRADD GYMUNEDOL NEW INN, 12 Mehefin 2006". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-06-05. Cyrchwyd 2013-07-24.
  4. "Swyddau Ystadegau Gwladol, Sgiliau iaith Gymraeg, New Inn SA39". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2013-07-21.
  5. "Swyddau Ystadegau Gwladol, Gwlad enedigol, New Inn SA39". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2013-07-21.
  6. "Swyddau Ystadegau Gwladol, Gweithgarwch Economaidd, New Inn SA39". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2013-07-21.