Cylchgrawn llenyddol Cymreig, yn yr iaith Saesneg, yw'r New Welsh Review.

New Welsh Review
Enghraifft o'r canlynolcyfnodolyn Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1988 Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganThe Anglo-Welsh Review Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.exacteditions.com/read/newwelshreader Edit this on Wikidata

Sefydlwyd ym 1988, gan olynu The Welsh Review (1939–1948), Dock Leaves, a The Anglo-Welsh Review (1949–1987). Hwn yw cylchgrawn llenyddol Saesneg mwyaf blaengar Cymru. Cyhoeddir erthyglau ar lenyddiaeth, y celfyddydau, cyfweliadau, adolygiadau, yn ogystal â straeon byrion a barddoniaeth.

Mae'r cyfranwyr wedi cynnwys Dannie Abse, Paul Muldoon, P. D. James, Emyr Humphreys, Leslie Norris, Gwyneth Lewis, Les Murray, Rachel Trezise, Niall Griffiths, Owen Sheers, Terry Eagleton, Edna Longley, Byron Rogers, Gillian Clarke a Paul Groves.[1]

Cyhoeddir y cylchgrawn yn Aberystwyth bob chwarter, gyda chymorth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Caiff ei noddi hefyd gan Brifysgolion Aberystwyth, Morgannwg a Chaerdydd.

Golygyddion golygu

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1.  Cyhoeddwyr > New Welsh Review Ltd. Llenyddiaeth Cymru.
  2.  Llyfrgell Genedlaethol Cymru > New Welsh Review Archive. Archifau Cymru. Adalwyd ar 17 Mehefin 2011.