Newcastle upon Tyne

Dinas yn Lloegr

Dinas yn Tyne a Wear, Gogledd-ddwyrain Lloegr, yw Newcastle upon Tyne neu Newcastle.[1] Fe'i lleolir mewn ardal ddi-blwyf ym mwrdeistref fetropolitan Dinas Newcastle upon Tyne. Saif ar Afon Tyne.

Newcastle upon Tyne
Mathdinas, dinas fawr, plwyf sifil, ardal ddi-blwyf Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Newcastle upon Tyne
Poblogaeth300,196 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 2 g Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTyne a Wear
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd114 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr30 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Tyne Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.9778°N 1.6133°W Edit this on Wikidata
Cod postNE Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Newcastle upon Tyne boblogaeth o 286,064.[2]

Hanes golygu

Yn y cyfnod Rhufeinig safai Pons Aelius, un o geyrydd y Rhufeiniaid ar hyd Mur Hadrian, ar safle presennol Newcastle. Adeiladwyd castell Normannaidd yno tua 1080, ar adfeilion tref Eingl-Sacsonaidd Monkchester, gan Robert Curthose, mab Gwilym I. Hwn oedd y castell newydd y mae'r ddinas yn cael ei henw ganddo. Yn ystod yr Oesoedd Canol roedd Newcastle yn gaer bwysig, roedd yn amddiffyn ffin ogleddol Lloegr yn erbyn yr Alban. Yn yr 19g, datblygodd Newcastle fel porthladd allforio glo o lofeydd Durham ac fel canolfan adeiladu llongau a pheirianyddiaeth drwm. Ar sail cyfoeth y Chwyldro Diwydiannol, ailadeiladwyd canol y ddinas mewn arddull neoglasurol yn y 1830au. Mae pensaernïaeth Grey Street yn nodweddiadol o'r arddull hon. Adeiladwyd Pont Tyne ym 1928. Yn ystod y 1990au cafodd ardal Glan y Cei ei hailddatblygu, ac adeiladwyd Pont y Mileniwm yn cysylltu Newcastle â thref gyfagos Gateshead a'r datblygiadau diwylliannol newydd yno.

Gefeilldrefi golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 29 Gorffennaf 2020
  2. City Population; adalwyd 29 Gorffennaf 2020