Nia Griffith

gwleidydd Cymreig ac AS

Aelod Seneddol Llafur dros etholaeth Llanelli yw Nia Rhiannon Griffith (ganwyd 4 Rhagfyr 1956).

Nia Griffith
AS
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru
Yn ei swydd
Dechrau
6 Ebrill 2020
Arweinydd Keir Starmer
Cysgodi Simon Hart
Rhagflaenydd Christina Rees
Yn ei swydd
13 Medi 2015 – 27 Mehefin 2015
Arweinydd Jeremy Corbyn
Cysgodi Stephen Crabb
Alun Cairns
Simon Hart
Rhagflaenydd Owen Smith
Olynydd Paul Flynn
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol dros Amddiffyn
Yn ei swydd
6 Hydref 2016 – 6 Ebrill 2020
Arweinydd Jeremy Corbyn
Cysgodi Michael Fallon
Gavin Williamson
Rhagflaenydd Clive Lewis
Aelod Seneddol
dros Llanelli
Yn ei swydd
Dechrau
5 Mai 2005
Rhagflaenydd Denzil Davies
Mwyafrif 7,095 (18.4%)
Manylion personol
Ganwyd Nia Rhiannon Griffith
(1956-12-04) 4 Rhagfyr 1956 (67 oed)
Dulyn, Iwerddon
Plaid wleidyddol Llafur
Alma mater Coleg Somerville, Rhydychen
Prifysgol Bangor
Gwefan Gwefan swyddogol

Cafodd ei phenodi yn Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru gan arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn ar 13 Medi 2015,[1] gan ymddiswyddo ar 27 Mehefin 2016.[2]

Bywgraffiad golygu

Daw ei theulu o bentrefi glofaol ger Castell Nedd. Ganwyd hi yn Nulyn yn yr Iwerddon a'i haddysgu yn Ysgol Uwchradd Newland yn Hull a Choleg Somerville, Rhydychen. Cafodd radd dosbarth cyntaf mewn Ieithoedd Modern yno. Dilynodd gwrs hyfforddi athrawon ym Mhrifysgol Cymru, Bangor a bu'n athrawes, yn ymgynghorydd addysg ac Arolygwr Estyn cyn dod yn Aelod Seneddol. Mae'n medru siarad pum iaith: Cymraeg; Saesneg; Eidaleg; Ffrangeg a Sbaeneg.

Fe etholwyd Nia i'r Tŷ'r Cyffredin yn Etholiad Cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2005, yn dilyn ymddeoliad Denzil Davies. Enillodd y sedd gyda mwyafrif o 7,234 o bleidleisiau. Traddododd ei haraith gyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin ar Fai’r 19eg, 2005 [1]. Yn y Senedd, mae hi’n aelod o’r Pwyllgor Materion Cymreig yn ogystal â’r Pwyllgor Archwilio Ewropeaidd.

Ymunodd Nia Griffith â’r Blaid Lafur ym 1981. Yn y gorffennol, bu hi’n Ysgrifenyddes Plaid Lafur Sir Gaerfyrddin. Etholwyd hi yn Gynghorydd i Gyngor Tref Caerfyrddin ym 1987. Gwasanaethodd fel Siryf ym 1997 a Dirprwy Faer ym 1998. Ei phrif ddiddordebau gwleidyddol yw Ewrop a’r amgylchedd.

Bywyd personol golygu

Mae Griffith wedi ysgaru, roedd ei cyn ŵr yn weithiwr cymdeithasol.[3][4] Mewn llun grŵp o wleidyddion LHDT wedi ei dynnu ar gyfer The Independent yn Chwefror 2016, fe wnaeth Griffith ddod allan fel lesbiad, gan ddweud bod ei rhywioldeb yn hysbys ymysg ei ffrindiau, teulu a chyd-weithwyr ers canol y 1990au.[5]

Mae Griffith yn berchen ar dŷ yn Llanelli, fflat yn Llundain,[6] a thyddyn yn Sir Gaerfyrddin sy'n derbyn nawdd Tir Gofal.[7] Mae ei diddordebau yn cynnwys cerddoriaeth, sinema Ewropeaidd, garddio, cerdded a seiclo.[8][9]

Cyhoeddiad golygu

  • 100 Ideas for Teaching Languages by Nia Griffith, 2005, Continuum International Publishing Group ISBN 0826485499

Cyfeiriadau golygu

  1. http://www.theguardian.com/politics/2015/sep/14/jeremy-corbyn-labour-shadow-cabinet-in-full/37590[dolen marw]
  2. Syal, Rajeev; Perraudin, Frances (27 Mehefin 2016). "Shadow cabinet resignations: who has gone and who is staying". The Guardian. Cyrchwyd 27 Mehefin 2016.
  3. Dod's parliamentary companion guide ... - Google Books
  4. This is South Wales | The Labour Party's hopeful, Nia Griffith
  5. http://www.independent.co.uk/news/uk/politics/gay-mps-the-photograph-that-shows-westminsters-attitude-towards-lgbt-politicians-is-changing-a6886771.html
  6. MPs' expenses: Full list of MPs investigated by the Telegraph - Telegraph
  7. TheyWorkForYou
  8. "WPR - Nia Griffith MP". Parliamentaryrecord.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-05-15. Cyrchwyd 2012-08-20.
  9. Dod's parliamentary companion - Google Books

Dolenni allanol golygu

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Denzil Davies
Aelod Seneddol dros Lanelli
2005 – presennol
Olynydd:
deiliad
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Owen Smith
Ysgrifennydd Gwladol Cysgodol Cymru
3 Medi 2015 – presennol
Olynydd:
deiliaid