Nia Roberts (cyflwynydd)

Cyflwynydd radio-a-theledu o Gymraes

Cyflwynydd radio a theledu Cymreig yw Nia Roberts.

Bywyd cynnar golygu

Magwyd Nia Roberts yn nhref Benllech ar Ynys Môn yn ferch i'r athro ac actor J. O. Roberts. Ei brawd yw'r cyflwynydd teledu Gareth Roberts.[1]

Gyrfa golygu

Mae'n un o wynebau mwya cyfarwydd S4C ac mae wedi cyflwyno nifer o raglenni'r sianel yn cynnwys ei sioe sgwrsio ei hun. Cyflwynodd y sioe adloniant a chystadleuol Côr Cymru a bu'n brif gyflwynydd ar raglenni yn cyflwyno arlwy'r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd. Roedd yn un o gyflwynwr y rhaglen gelf a diwylliant Pethe.[2] Ers 2015 mae'n cyflwyno'r rhaglen gwis 'Celwydd Noeth'.[3]

Arferai gyflwyno rhaglen gylchgrawn yn y bore ar BBC Radio Cymru[4] cyn symud i'r prynhawn yn 2012, ond daeth y rhaglen i ben yn Rhagfyr 2013.[5] Ers hynny mae wedi bod yn cyflwyno'r rhaglen gelfyddydol wythnosol Stiwdio.[6]

Bywyd personol golygu

Mae'n byw yn Y Bont-faen gyda'i gŵr Geraint ac mae ganddynt ddwy ferch, Nel a Ceisa.[1] Pan oedd yn briod gyda'r cerddor Huw Chiswell ei henw oedd Nia Chiswell.[7] Derbyniodd Gymrodoriaeth er anrhydedd am ei chyfraniad i faes darlledu gan Brifysgol Bangor ar 13 Gorffennaf 2016.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Nia focuses on family in Radio Cymru programme". northwales. Cyrchwyd 2016-01-13.
  2. "Pethe - Cyflwynwyr". S4C. Cyrchwyd 13 Ionawr 2016.[dolen marw]
  3. Celwydd Noeth - Cwmni Da[dolen marw]; Adalwyd 13 Ionawr 2016
  4. Nia Roberts - Radio Cymru, BBC
  5. (Welsh) Tad cyflwynwraig Radio Cymru yn cwyno am y BBC, Golwg360
  6. Stiwdio gyda Nia Roberts - Radio Cymru, BBC
  7. "Nia Roberts - UKGameshows". www.ukgameshows.com. Cyrchwyd 2016-01-13.