Niko Bellic

prif gymeriad y gêm fideo GTA 4

Mae Niko Bellic yn gymeriad ffuglennol ac yn brif gymeriad chwaraeadwy gêm fideo 2008 Rockstar North, Grand Theft Auto IV, y chweched prif gyfran y gyfres Grand Theft Auto a ddatblygwyd gan Rockstar Games . Mae hefyd yn ymddangos yng nghynnwys episodig y gemau The Lost and Damned a The Ballad of Gay Tony, y ddau wedi eu rhyddhau yn 2009. Cafodd ei leisio gan Michael Hollick .

Niko Bellic
GanwydIwgoslafia, Unknown Edit this on Wikidata
Man preswylLiberty City Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Galwedigaethtroseddwr, gyrrwr tacsi, deliwr cyffuriau, child soldier, lleiddiad cyflog, human trafficker, vigilante Edit this on Wikidata
OlynyddJohnny Klebitz Edit this on Wikidata
MamMilica Bellic Edit this on Wikidata
PerthnasauRoman Bellic Edit this on Wikidata

Mae Niko yn gyn-filwr o Ddwyrain Ewrop sydd, ar gais ei gefnder, Roman Bellic, yn symud i Liberty City, dinas ffuglennol wedi'i seilio ar Ddinas Efrog Newydd, i fynd ar drywydd y Freuddwyd Americanaidd a dechrau bywyd newydd ochr yn ochr â Roman. Fodd bynnag, mae gan Niko gymhellion ychwanegol i deithio yno, yn benodol i chwilio am y dyn a fradychodd ei uned filwrol yn y rhyfel er mwyn cael dial. Er ei fod yn ceisio gadael ei orffennol treisgar ar ôl, buan iawn y daw Niko yn rhan o fyd trais, trosedd a llygredd y ddinas. Mae'n symud i fyny yn isfyd troseddol y ddinas, gan weithio i wahanol gysylltiadau mewn ymgais i ennill digon o arian i sicrhau gwell ffordd o fyw iddo'i hun a Roman, a dod o hyd i'r bradwr cyn gynted â phosibl.

Cenedligrwydd golygu

Nid yw cenedligrwydd Niko yn cael ei nodi yn y gêm, ac mae wedi bod yn destun dadl.[1] Cyn lansiad y gêm, credai rhai ei fod yn Rwsiad, Serbiad neu Croatiad .[2][3] Yn ôl cynhyrchydd gweithredol y gêm Sam Houser mae Niko "o'r rhan lwyd honno o Ddwyrain Ewrop sydd wedi'i chwalu", gan awgrymu bod cenedligrwydd Niko wedi'i adael yn fwriadol amwys neu i ddehongliad y chwaraewr.[4]

Bywgraffiad golygu

Bywyd cynnar golygu

Ganwyd Niko ym 1978 yn fab i Milica Bellic a thad dienw oedd yn alcoholig ac yn ymosod ar ei deulu. Mae Milica, sy'n meddu ar natur famol a gofalgar, yn gresynu bod ei meibion wedi cael eu gorfodi i ddioddef caledi fel plant. Cymerodd Niko ran mewn rhyfel dienw fel troedfilwr, gyrrwr tanciau, a pheilot hofrennydd, pan welodd nifer o erchyllterau a achosodd trawma iddo, gan arwain at ei farn sinigaidd ar fywyd. Ar ôl ymosodiad ar uned o bymtheg o ddynion o’i bentref, dihangodd Niko a daeth i’r casgliad bod yr uned wedi’i bradychu gan un o’r milwyr eu hunain. Dysgodd fod dau arall wedi goroesi, Florian Cravic a Darko Brevic, ac mae'n addo chwilio am y bradwr. Ar ôl y rhyfel, cafodd Niko anhawster i arwain bywyd normal, a lladdwyd ei frawd hynaf wrth ymladd. Gan wybod dim ond trais, trodd Niko at isfyd troseddol gwledydd y Balcan. Ymunodd Niko â chylch smyglo a masnachu pobl a oedd yn cael ei rhedeg gan y troseddwr Rwseg, Ray Bulgarin. Yn ystod un rhediad smyglo i'r Eidal, suddodd y cwch yr oedd Niko yn gweithio arno yn Môr Adria.[5] Nofiodd Niko i ddiogelwch, ond cyhuddodd Bulgarin ef o ddianc gyda'r arian. Yn ddiweddarach, ymunodd Niko â'r llynges fasnachol er mwyn ffoi o Bulgarin. Ymunodd â chriw llong cargo'r Platypus, a derbyniodd cais ei gefnder Roman iddo ymweld ag ef yn Liberty City, yr Unol Daleithiau.[6]

Cyrraedd Liberty City golygu

Wedi cyraedd Liberty City yn 2008, mae Niko yn sylweddoli’n gyflym fod straeon Roman am lwyddiant ac am olud wedi eu gorliwio. Mae Roman byw mewn fflat bach tlodaidd [7] ac mae arno ddyledion gamblo ledled y ddinas.[8][9][10][11] Mae sgiliau milwrol Niko yn rhoi mantais iddo dros wehilion stryd Liberty City.[12][13] Mae Niko yn amddiffyn Roman rhag siarcod benthyg, ac yn fuan iawn mae'n dechrau gwneud arian a chysylltiadau a all ei helpu i ddod o hyd i Florian yn y ddinas.[14] Mae ei gydberthynasau proffesiynol a phersonol yn ehangu yn ystod y gêm.[15]

Wrth weithio i gwmni tacsi Roman a'i amddiffyn rhag benthycwyr arian didrwydded, mae Niko yn cwrdd ac yn cyfeillio â nifer o drigolion Brocer. Ymysg y rhai mae'n cyfarfod yw is benaeth gang y Yardis, Little Jacob, a'r gwerthwr ceir Brucie Kibbutz, y mae'n cyflawni ychydig o swyddi ar eu cyfer. Mae hefyd yn cael ei orfodi i weithio i Vlad Glebov, siarc benthyca Rwsiaidd Roman, er mwyn talu dyledion Roman, ond yn y pen draw yn ei ladd ar ôl dysgu iddo gysgu gyda Mallorie, cariad Roman. Wrth ddial, mae Niko a Roman yn cael eu herwgipio gan y maffia Rwseg ar orchmynion Mikhail Faustin a Dimitri Rascalov, ond mae Faustin, sy'n ddi hud am lofruddiaeth Vlad, yn eu rhyddhau ac yn cyflogi Niko fel lleiddiad cyflog. Mae Niko yn darganfod gwir natur Faustin yn gyflym ar ôl cael gorchymyn i ladd mab Kenny Petrović, y mobster Rwsiaidd mwyaf pwerus yn Liberty City. Pan mae Petrović yn bygwth dial, mae Dimitri yn argyhoeddi Niko i lofruddio Faustin i wneud iawn, ond mae'n ei fradychu ac yn dod ag ef gerbron Ray Bulgarin, sy'n mynnu beth mae'n honni sy'n ddyledus iddo. Mewn frwydr dilynol mae Dimitri a Bwlgarin yn dianc, tra bod Niko yn lladd y mobster Rwseg gyda chymorth Little Jacob. I dalu'r pwyth yn ôl mae fflat a chwmni tacsi Roman yn cael eu llosgi gan ddynion Dimitri.

Chwilio am y bradwr a chwilio am fywyd gwell golygu

Wedi'i orfodi i symud i ardal Bohan a gorwedd yn isel am gyfnod, mae Niko yn dechrau gwneud cysylltiadau troseddol newydd. Mae ei gysylltiadau newydd yn cynnwys sawl pennaeth gangiau cyffuriau lleol, gan gynnwys Elizabeta Torres, Playboy X a'r maffia Gwyddelig, y mae'n dechrau gweithio iddynt mewn ymgais i sicrhau bywyd gwell iddo'i hun ac i Roman ac i ganfod lleoliad Florian.[16] Yn y broses, mae'n cyfeillio â'r gwylliad Gwyddelig Patrick McReary. Ar ôl helpu McReary i gyflawni lladrad banc mae Niko'n darganfod bod ei gariad, Michelle, yn gudd asiant y llywodraeth o'r enw Karen.[17] Mae hi'n arestio Niko am ei droseddau. Mae Karen yn cynnig rhyddid a phardwn i Niko os yw'n gweithio i'w hasiantaeth, sy'n cuddio ei fodolaeth trwy gogio bod yn bapur newyddion lleol United Liberty Paper.[18] Mae'r asiantaeth yn cael Niko i lofruddio sawl terfysgwr hysbys neu dan amheuaeth o derfysg. Mae pennaeth yr asiantaeth hefyd yn addo rhoi cymorth i Niko i ddod o hyd i'r gŵr bradychodd ei uned yn y rhyfel.

Gyda'r rhan fwyaf o'i gyflogwyr wedi eu lladd neu eu harestio yn y pen draw, mae Niko hefyd yn gweithio i Ray Boccino, caporegime yn Nheulu Trosedd Pegorino. Mae Boccino yn cyflogi Niko i oruchwylio dêl diemwntau pwysig, sy'n mynd o chwith. Serch hynny, mae Boccino yn helpu Niko i ddod o hyd i Florian, sydd bellach yn cael ei adnabod fel Bernie Crane. Mae Bernie yn ŵr cyfunrywiol sy'n cael perthynas efo Dirprwy Faer y ddinas, Bryce Dawkins. Wedi mynd i ladd Bernie am ei frad mae Niko yn canfod nad ef yw'r bradwr. Wedi hynny, mae Niko yn amddiffyn Berni rhag ymosodwr homoffobig ac yn ei gynhorthwy i gadw'r gyfrinach am ei berthynas efo'r dirprwy maer rhag cael ei ddatgelu gan flacmelwyr.[19]

Yn dilyn hynny, mae Niko yn gweithio i deuluoedd Gambetti a Pegorino yn gyfnewid am gymorth i ddod o hyd i’r bradwr go iawn Darko Brevic, sy’n cuddio allan yn Ewrop. Mae Niko yn llofruddio Boccino ar orchymyn Don Jimmy Pegorino, sy'n ei amau o fod yn hysbysydd yr heddlu. Mae Niko hefyd yn helpu Patrick i herwgipio merch Don Giovanni Ancelotti i'w phridwerthu am y diemwntau, ond mae'r cyfnewid yn cael ei rhyng-gipio gan Bulgarin, gan arwain at golli'r diemwntau eto.

Mae Niko a Roman yn sicrhau'r ffordd o fyw yr oeddent yn ei cheisio ar ôl i Roman ailadeiladu ei gwmni tacsi a phrynu fflat newydd yn Algonquin gan ddefnyddio'r arian yswiriant o'i fusnes a ddinistriwyd yn flaenorol. Mae Roman hefyd yn cynnig priodi Mallorie, mae hi'n derbyn y cynnig.

Diweddglo golygu

Yn y pen draw, mae asiantaeth y Papur yn cael hyd i Darko ac yn dod ag ef i Liberty City er mwyn i Niko benderfynu ei dynged. Mae'r chwaraewr yn cael penderfynu os yw Darko yn fyw neu'n cael ei ladd gan Niko. Ar ôl penderfynu ar dynged Darko, gwysir Niko gan Pegorino am un ffafr olaf: i helpu gyda dêl heroin hynod broffidiol gyda Dimitri. Rhaid i Niko naill ai daro’r fargen â Dimitri, neu ddial arno.

Os yw Niko yn penderfynu taro bargen efo Dimitri mae Dimitri unwaith eto yn ei fradychu ac yn dwyn yr heroin, gan orfodi Niko i ladd y prynwyr ac adfer yr arian. O ganlyniad i hyn mae llofrudd a anfonwyd gan Dimitri i ladd Niko yn lladd Roman yn anfwriadol. Gyda chymorth Little Jacob, mae Niko'n llofruddio Dimitri. Yn ddiweddarach, mae Mallorie yn hysbysu Niko ei bod yn feichiog gyda phlentyn Roman.

Os yw Niko yn dewis dial, mae'n brwydro dynion Dimitri ar fwrdd y Platypus i'w gyrraedd a'i ladd. Mae Pegorino, yn gandryll ar ôl brad Niko, ac yn ei dargedu mewn cyrch saethu o gar adeg priodas Roman. Mae'r lleiddiad cyflog yn y car yn methu Niko ond yn lladd cariad newydd Niko Kate, chwaer Patrick. Gyda chymorth Little Jacob a Roman, mae Niko yn lladd Pegorino. Yn ddiweddarach, dywed Roman wrth Niko fod Mallorie yn feichiog, ac os yw'r babi yn ferch, byddant yn ei henwi er cof am Kate.

Wedi'r holl dreialon ac wedi cario'r dydd mae Niko yn ddwys ystyried addewid y Breuddwyd Americanaidd ac yn dod i'r casgliad ei fod yn addewid gwag, na all unrhyw un ei gyflawni mewn gwirionedd.

Bywyd ar ôl GTA IV golygu

Yn Grand Theft Auto V, a osodwyd yn 2013, mae Niko yn cael ei grybwyll yn fyr gan Patrick, sy'n honni nad yw wedi clywed amdano ers 2008. Mae Lester Crest hefyd yn cyfeirio'n fyr at "Ŵr o Ddwyrain Ewrop sy'n gwneud symudiadau yn Liberty City" a "aeth yn dawel", gan awgrymu bod Niko wedi gadael ei fywyd troseddol ar ôl. Mae wy Pasg yn y gêm yn awgrymu bod Niko yn dal i weithio i gwmni tacsi Roman.

Nodweddion golygu

Mae Niko yn cael ei bortreadu fel person ymarferol a realistig, sy'n gwylltio'n hawdd. Mae ganddo synnwyr digrifwch sych, coeglyd, ac mae'n aml yn gwneud sylwadau chwerw. Er ei fod yn difaru ei droseddau, mae'n teimlo bod ei enaid yn cael ei lygru'n barhaol, ac mai lladd yw'r cyfan y gall ei wneud. Ymddengys fod Niko yn berson mwy aeddfed, empathetig, a synhwyrol na llawer o'i gydnabod. Mae ei gydnabod benywaidd yn aml yn tynnu sylw at y ffaith bod gan Niko foesau soffistigedig ac ymddengys ei bod yn berson gweddus iawn. Lawer gwaith mae'n ceisio datrys gwrthdaro rhwng dau barti heb ddefnyddio trais.

Yn agos at ddiwedd y gêm, mae Niko yn mynegi awydd i symud ymlaen o'i fywyd troseddol a chael dechrau o'r newydd. Nid yw Niko yn hoff o gyffuriau er gwaethaf ei ran aml yn y fasnach gyffuriau ac mae'n gwrthod cynnig farijuana gan Little Jacob.

Ymddangosiadau eraill golygu

Mae Niko yn chwarae rhan fach yn y ddau becyn ehangu Grand Theft Auto IV, The Lost a Damned a The Ballad of Gay Tony (y ddau o 2009), gemau sy'n gyd digwydd mewn lleoliad ac amser a stori'r gêm sylfaen [20] Mae'n ymddangos fel cymeriad sydd ddim o dan reolaeth y chwaraewr yn y tasgau sy'n ail adrodd agweddau o'r gêm sylfaen.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Grand Theft Auto IV: the biggest and the best". The Telegraph. Cyrchwyd 2020-11-27.
  2. "Grand Theft Auto IV". Bloomberg.com. 2007-10-17. Cyrchwyd 2020-11-27.
  3. Schiesel, Seth (2008-05-21). "A Video Game Star and His Less-Than-Stellar Pay (Published 2008)". The New York Times. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2020-11-27.
  4. "GTA4: Sweet Land of Liberty from 1UP.com". web.archive.org. 2013-09-28. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-15. Cyrchwyd 2020-11-27.
  5. Schiesel, Seth (2008-04-28). "Grand Theft Auto Takes On New York (Published 2008)". The New York Times. ISSN 0362-4331. Cyrchwyd 2020-11-27.
  6. "Keith Stuart on the subtleties of GTA IV". the Guardian. 2008-04-29. Cyrchwyd 2020-11-27.
  7. "Grand Theft Auto IV". Ur magazine. Rogers Publishing. t. 64.
  8. "Grand Theft Auto IV". PCMag UK (yn Saesneg). 2008-04-29. Cyrchwyd 2020-11-27.
  9. "Grand Theft Auto IV, the drive of your life - Times Online". web.archive.org. 2008-10-12. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-10-12. Cyrchwyd 2020-11-27.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  10. "'Grand Theft Auto IV' will blow you away". NBC News. Cyrchwyd 2020-11-27.
  11. "Grand Theft Auto IV Review for Xbox 360 - GameSpot". web.archive.org. 2010-04-23. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-04-23. Cyrchwyd 2020-11-27.
  12. "Grand Theft Auto IV". www.rockstargames.com. Cyrchwyd 2020-11-27.
  13. "Games Without Frontiers: 'Grand Theft Auto IV' Delivers Deft Satire of Street Life". web.archive.org. 2009-10-28. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-10-28. Cyrchwyd 2020-11-27.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  14. "Grand Theft Auto IV: Making a killing is the name of the game" (yn Saesneg). ISSN 0140-0460. Cyrchwyd 2020-11-27.
  15. "It's just a game, says man behind Grand Theft Auto - Times Online". web.archive.org. 2008-05-16. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-05-16. Cyrchwyd 2020-11-27.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  16. "Niko Bellic". Codex Gamicus. Cyrchwyd 2020-11-27.
  17. "Karen Daniels". GTA Fandom. Cyrchwyd 2020-11-27.
  18. "United Liberty Paper". GTA Fandom. Cyrchwyd 2020-11-27.
  19. Archive, LGBTQ Game (2015-09-11). "Bernie Crane (Florian Cravic) in Grand Theft Auto IV". LGBTQ Video Game Archive. Cyrchwyd 2020-11-27.
  20. "'Hell No' – No New Lines For Niko Bellic in 'Grand Theft Auto' Expansion". web.archive.org. 2012-06-24. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-24. Cyrchwyd 2020-11-27.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)