Awdures o Bangladesh, India a Phacistan oedd Nilima Ibrahim (11 Ionawr 1921 - 18 Mehefin 2002) sy'n cael ei hystyried hefyd yn nodigedig am ei gwaith fel addysgwraig Bangladeshaidd, littérateur a gweithwraig cymdeithasol.

Nilima Ibrahim
Ganwyd11 Hydref 1921 Edit this on Wikidata
Bagerhat Sadar Upazila Edit this on Wikidata
Bu farw18 Mehefin 2002 Edit this on Wikidata
Dhaka Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Bangladesh Bangladesh
Alma mater
  • Prifysgol Calcutta
  • Prifysgol Dhaka
  • Coleg Eglwys yr Alban Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Calcutta
  • Prifysgol Dhaka Edit this on Wikidata
PriodMuhammad Ibrahim Edit this on Wikidata
PlantHajera Mahtab, Dolly Anwar, Q124248019 Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Dowrnod Annibynniaeth, Gwobr Lenyddol Academi Bangla, Gwobr Ekushey Padak Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Bagerhat Sadar Upazila a leolir ers 1958 yn 'Khulna', Bangladesh a bu farw yn Dhaka, prifddinas Bangladesh. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Calcutta, Prifysgol Dhaka a Choleg Eglwys yr Alban, India. Roedd Dolly Anwar yn blentyn iddi.

Mae hi'n adnabyddus am ei hysgoloriaeth ar lenyddiaeth Bengaleg ond hyd yn oed yn fwy felly am ei darlun o fenywod wedi'i treisio a'u harteithio yn Rhyfel Annibyniaeth Bangladesh 1971, yn ei llyfr Ami Birangana Bolchi.[1] Derbyniodd Wobr Lenyddol Academi Bangla ym 1969, Begum Rokeya Padak (1996) ac Ekushey Padak yn 2000 gan Lywodraeth Bangladesh am ei chyfraniadau i lenyddiaeth Bangla.[2][3]

Magwraeth golygu

Ganwyd Ibrahim Bagerhat, Khulna i Zamindar Prafulla Roy Chowdhury a Kusum Kumari Devi. Pasiodd Ibrahim ei harholiad gadael ysgol ac arholiadau lefel mynediad o Ysgol Merched Khulna Coronation ym 1937 ac o'r Sefydliad Victoria yn Calcutta ym 1939. Yn ddiweddarach enillodd raddau baglor yn y celfyddydau ac addysgu gan Goleg Eglwys yr Alban, a ddilynwyd gan MA mewn llenyddiaeth Bengaleg o Brifysgol Calcutta yn 1943. Byddai hefyd yn ennill doethuriaeth mewn llenyddiaeth Bengaleg o Brifysgol Dhaka yn 1959.

Academydd golygu

Roedd Ibrahim yn academydd proffesiynol. Dysgodd mewn sawl ysgol, ac yna ym Mhrifysgol Dhaka yn 1956, ac yn athro'r adran Bengaleg yn 1972. Hi hefyd oedd Cadeirydd Academi Bangla, ac Is-gadeirydd Ffederasiwn Menywod Parth De Asia.[1]

Llyfryddiaeth golygu

Ffeithiol golygu

  • Sharat-Pratibha (Sharatchanda), 1960,
  • Banglar Kavi Madhusudan (Madhushudan, y Bardd o Bengal), 1961,
  • Unabingsha Shatabdir Bangali Samaj o Bangla Natak, 1964,
  • Bangla Natak: Utsa o Dhara, 1972,
  • Begum Rokeya, 1974,
  • Bangalimanas o Bangla Sahitya, 1987,
  • Sahitya-Sangskrtir Nana Prasanga, 1991

Ffuglen golygu

  • Bish Shataker Meye, 1958,
  • Ek Path Dui Bank, 1958,
  • Keyabana Sancharini, 1958,
  • Banhi Balay, 1985

Dramâu golygu

  • Due Due Char, 1964,
  • Je Aranye Alo Nei, 1974,
  • Rodjwala Bikel, 1974,
  • Suryaster Par, 1974

Stori fer golygu

  • Ramna Parke, 1964

Cyfieithiadau golygu

  • Eleanor Roosevelt, 1955,
  • Kathashilpi James Fenimor Cooper, 1968,
  • Bostoner Pathe Pathe, 1969

Teithlyfr golygu

  • Shahi Elakar Pathe Pathe, 1963

Bywgraffiad golygu

  • Bindu-Visarga, 1991

Arall golygu

  • Ami Virangana Bolchhi, 1996

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Dowrnod Annibynniaeth, Gwobr Lenyddol Academi Bangla, Gwobr Ekushey Padak .

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Islam, Sirajul (2012). "Ibrahim, Nilima". In Islam, Sirajul; Ali, Zeenat (gol.). Banglapedia: National Encyclopedia of Bangladesh (arg. Second). Asiatic Society of Bangladesh.
  2. পুরস্কারপ্রাপ্তদের তালিকা [Winners list] (yn Bengali). Bangla Academy. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-01. Cyrchwyd 23 Awst 2017. Invalid |script-title=: missing prefix (help)
  3. একুশে পদকপ্রাপ্ত সুধীবৃন্দ [Ekushey Padak winners list] (yn Bengali). Government of Bangladesh. Cyrchwyd 23 Awst 2017. Invalid |script-title=: missing prefix (help)