Noah Ablett

glöwr ac undebwr llafur Cymreig

Roedd Noah Ablett (4 Hydref 1883 - 31 Hydref 1935) yn arweinydd undeb y glowyr yn drefnydd addysg oedolion ac yn arloesydd Marcsiaeth yng Nghymru.[1]

Noah Ablett
Ganwyd4 Hydref 1883 Edit this on Wikidata
y Porth Edit this on Wikidata
Bu farw31 Hydref 1935 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Ruskin College Edit this on Wikidata
Galwedigaethundebwr llafur Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Ablett yn yr Ynyshir, Porth y Rhondda y 10fed o 11 plentyn John Ablett, glöwr, a Jane, (née William) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn ysgol uwch Trerhondda a Choleg Ruskin, Rhydychen.

Gyrfa golygu

Wedi ymadael a'r ysgol yn 12 mlwydd oed aeth Ablett i weithio i bwll glo Yny-shir. Yn ogystal â gweithio yn y pwll roedd yn bregethwr lleyg gyda'r Bedyddwyr. Er mwyn ceisio modd i ddianc o waith dan ddaear bu'n astudio ar gyfer arholiadau'r gwasanaeth sifil. Cafodd damwain yn y gwaith a achosodd toriad cyfansawdd i esgyrn ei goes. Gan nad oedd y gwasanaeth sifil yn cyflogi pobl gyda nam corfforol ar y pryd daeth ei freuddwyd o gael swydd amgen i ben ac fe arhosodd yn y pwll glo. Yn 16 mlwydd oed cymerodd Ablett rhan yn Streic Glowyr Cymru 1898 a arweiniodd at drechu'r gweithwyr trwy eu cloi allan o'r gwaith am 6 mis. Wedi'r cloi allan ffurfiodd y glowyr Ffederasiwn Glowyr De Cymru (Y Ffed). Cafodd y streic a ffurfio'r Ffed dylanwad mawr ar agweddau gwleidyddol Ablett.[2]

Dechreuodd darllen llyfrau Karl Marx ac awduron sosialaidd eraill. Ym 1907 cafodd ysgoloriaeth i ddilyn cwrs allanol gan Goleg Ruskin, Rhydychen. Ym 1908 cafodd ysgoloriaeth gan gangen y Rhondda o'r Ffed i fynychu'r coleg fel myfyriwr preswyl. Doedd Ablett ddim yn hapus efo'r addysg roedd yn cael yn Ruskin. Teimlai bod y cysylltiad efo Prifysgol Rhydychen yn enghraifft o'r sefydliad yn ceisio rheoli gwybodaeth a barn y dosbarth gweithiol.[3] Trefnodd darlithiau ar economeg a hanes Marcsaidd i'w cyd efrydwyr er mwyn hyrwyddo syniadaeth amgen i arlwy mwy traddodiadol y coleg. Roedd yn credu dylai'r dosbarth gweithiol trefnu ei addysg ei hun yn hytrach na dibynnu ar y sefydliad. Trefnodd streic ymysg y myfyrwyr i alw am goleg llafur y gweithwyr. Sefydlwyd y Coleg Llafur Canolog (CLC) yn ddiweddarach y flwyddyn honno.[4] Roedd Ablett yn aelod o'i bwyllgor dros dro yn cynrychioli Cynghrair y Plebs rhwng 1909 a 1911. Gwasanaethodd ar y bwrdd rheoli yn fel cynrychiolydd glowyr de Cymru wedi hynny a gwasanaethodd fel cadeirydd bwrdd y llywodraethwyr.[5]

 
Cymry yng Ngholeg Ruskin 1908. Mae Ablett ar chwith y sgrin yn eistedd ar y llawr

Pan ddychwelodd i Gymru ar ôl ei gyfnod coleg bu'n allweddol wrth hyrwyddo "Cynghrair y Plebs", mudiad a oedd yn hyrwyddo addysg gweithwyr trwy ddosbarthiadau mewn theori, cymdeithaseg ac economeg ddiwydiannol Farcsaidd.[6] Cafodd swydd ym mhwll glo'r Maerd ym 1910. Cafodd ei ethol i fod yn atalbwyswr y lofa. Y flwyddyn ganlynol cafodd ei ethol i Bwyllgor Gweithredol Ffederasiwn Glowyr De Cymru.

Ym 1912 cyhoeddodd mudiad a sefydlwyd gan Ablett - The Unofficial Reform Committee pamffled dylanwadol o'r enw The Miners Next Step. Roedd yn mynnu rheolaeth yr aelodaeth ar undeb canolog a diwydiannol, yn galw am berthynas cythryblus â chyflogwyr. Roedd yn gwrthwynebu gwladoli'r pyllau glo ac o blaid rheolaeth y gweithwyr arnynt. Penderfynodd ei gynnwys agenda'r chwith yn neheudir Cymru am y degawd nesaf a mwy.[7]

Pan ddaeth yn amlwg bod y Rhyfel Byd Cyntaf ar fin cychwyn bu Ablett yn galw am streic gyffredinol ryngwladol i geisio ei atal. Drwg enwyd ef gan lawer am ei ran yn streic glowyr de Cymru ym 1915. Bu'n gefnogol i wrthryfel Rwsia ym 1917.

Ym 1918 penodwyd Ablett yn Asiant Glowyr ym Merthyr. Doedd y symud ddim yn un lwyddiannus iawn. Roedd yn ymddangos ei fod yn cael anhawster dygymod â gwahanol draddodiadau'r dref honno cystal ag oedd wedi gwneud yn y Rhondda. Ddwywaith yn gynnar yn y 1920au methodd o drwch blewyn ag ennill enwebiad De Cymru a allai fod wedi arwain at ddod yn Ysgrifennydd Cyffredinol Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr ac a allai fod wedi darparu'r cam gwahanol yr oedd ei angen arno i ganiatáu i'w ddoniau a'i egni aruthrol ddatblygu ymhellach.

Bu'r cyfnod ar ôl y rhyfel yn anodd i'r ardaloedd glofaol a dioddefodd ardal Merthyr yn arw yn y 1920au. Pan glowyd y glowyr allan gan y cyflogwyr ym 1921 a 1926 aeth pethau o ddrwg i waeth. Ar ddiwedd cloi allan 1926 gwnaeth dêl gyda'r rheolwyr i geisio cadw pyllau Plymoth Hill ar agor yn groes i'w gredo oes o beidio ag ildio modfedd i'r cyflogwyr. Parodd hyn iddo gael ei wawdio gan elfennau radical yr undeb a'r mudiad llafur.

Ar ben ei anawsterau diwydiannol, gwleidyddol a diwylliannol roedd hefyd wedi magu perthynas glos ac alcohol oedd yn cael effaith andwyol ar ei gwaith. Cafodd ei ddirwy ym 1927 af fod yn chwil ac afreolus yn Llundain pan oedd bod mewn cyfarfod pwyllgor.[8] Rhwng y cwbl oll collodd ei ddylanwad ar y mudiad Llafur. Collodd ei seddi ar bwyllgor gweithredol Ffederasiwn Glowyr de Cymru, Pwyllgor reoli Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr a llywodraethwyr y Coleg Llafur Cenedlaethol.

Teulu golygu

Ym 1912 priododd Ablett â Annie Howells cawsant fab a merch.

Marwolaeth golygu

Bu farw o gancr yn ei gartref ym Merthyr yn 52 mlwydd oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. "ABLETT, NOAH (1883 - 1935); Glöwr ac arweinydd Undeb Llafur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2020-11-23.
  2. Llafur the journal of the Society for the Study of Welsh Labour History Cyf. 4 Rhif 3, 1986 tud 19-30 Noah Ablett 1883-1935 gan David Egan adalwyd 23 Tachwedd 2020
  3. Llafur the journal of the Society for the Study of Welsh Labour History; Cyf 2, Rhif 1, Gwanwyn 1976; Richard Lewis: THE SOUTH WALES MINERS AND THE RUSKIN COLLEGE STRIKE OF 1909
  4. "PURELY LABOUR COLLEGE WANTED - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1909-04-24. Cyrchwyd 2020-11-23.
  5. "Ablett, Noah (1883–1935), miners' leader and adult educator". Oxford Dictionary of National Biography. doi:10.1093/ref:odnb/47319. Cyrchwyd 2020-11-23.
  6. Llafur the journal of the Society for the Study of Welsh Labour History Cyf, 7 Rhif 3-4, 1998-1999 tud 45. SELF-IMPROVEMENT AND THE WELSH MINEWORKER gan Gordon Roderick adalwyd 23 Tachwedd 2020
  7. "Noah Ablett". Spartacus Educational. Cyrchwyd 2020-11-23.
  8. The Manchester Guardian 27 Gorffennaf 1927