Gwleidydd Japaneaidd oedd Nobusuke Kishi (13 Tachwedd 18967 Awst 1987) a wasanaethodd yn Brif Weinidog Japan o 1957 i 1960, fel aelod o'r Blaid Ddemocrataidd Ryddfrydol (Jimintō).

Nobusuke Kishi
Nobusuke Kishi ym 1954.
Ganwyd佐藤信介 Edit this on Wikidata
13 Tachwedd 1896 Edit this on Wikidata
Yamaguchi Edit this on Wikidata
Bu farw7 Awst 1987 Edit this on Wikidata
Tokyo Edit this on Wikidata
Man preswylQ11489159, Nanpeidaichō, Gotemba Edit this on Wikidata
DinasyddiaethJapan Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Tokyo Imperial University
  • first higher school
  • Yamaguchi Prefectural Yamaguchi High School
  • Prifysgol Tokyo Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, diplomydd, ysbïwr, biwrocrat Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ Cynrychiolwyr Japan, Prif Weinidog Japan, Prif Weinidog Japan, Minister of Defense of Japan, Minister for Foreign Affairs, Minister of State without Portfolio Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Ministry of Commerce and Industry Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadFrederick Winslow Taylor Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Blaid Ryddfrydol Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadHidesuke Satō Edit this on Wikidata
MamShigeyo Satō Edit this on Wikidata
PriodYoshiko Kishi Edit this on Wikidata
PlantYōko Abe, Nobukazu Kishi Edit this on Wikidata
PerthnasauShinzō Abe Edit this on Wikidata
Gwobr/auPrif Ruban Urdd y Blodau Paulownia, Uwch Cordon Prif Urdd yr Eurflodyn, Gwobr Heddwch y Cenhedloedd Unedig, Croes Uwch Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Uwch Groes Dosbarth 1af Urdd Teilyngdod Gwladwriaeth Ffederal yr Almaen, Urdd y Trysor Sanctaidd, Military Medal of Honor, Order of the Paulownia Flowers, Order of the Chrysanthemum, Urdd Eryr Mecsico, Urdd y Cymylau Ffafriol Edit this on Wikidata
llofnod

Bywyd cynnar, teulu, ac addysg (1896–1920) golygu

Ganed Satō Nobusuke ar 13 Tachwedd 1896 yn Nhalaith Yamaguchi yn ne-orllewin ynys Honshū, yn ystod oes Ymerodraeth Japan. Roedd yn ail fab i Hidesuke a Moyo Satō; ganed Hidesuke i rieni o'r enw Kishi, ond cafodd ei fabwysiadu gan y teulu Sato er mwyn iddynt gadw enw'r teulu yn fyw. Yn ei dro, cafodd Nobusuke ei fabwysiadu gan frawd hŷn ei dad, a chymerodd yr enw teuluol Kishi. Disgynnai'r ddau deulu o linachau'r samwrai yn arglwyddiaeth hanesyddol Chōshū, a hen daid Nobusuke oedd un o arweinwyr adferiad y Meiji ym 1868.[1] Cafodd ei fagu mewn amgylchedd hynod o wleidyddol; esgynnai ei frawd hŷn, Ichiro Satō, yn ôl-lyngesydd yn Llynges Ymerodraeth Japan, a gwasanaethai ei frawd iau, Eisaku Satō, yn Brif Weinidog Japan o 1964 i 1972.

Derbyniodd ei addysg mewn ysgolion o fri, er mwyn ei hyfforddi ar gyfer swydd biwrocrataidd, yn rhan o'r elît. Wedi iddo raddio o'r Uwch Ysgol Gyntaf yn Tokyo, aeth i Brifysgol Ymerodrol Tokyo ym 1917 i astudio'r gyfraith. Yno fe astudiodd dan yr Athro Shinkichi Uesugi, isddarlithydd y gyfraith gyhoeddus, a oedd yn adnabyddus am ei ddehongliad cenedlaetholgar a cheidwadol o'r gyfraith gyfansoddiadol.[1] Graddiodd gyda'r anrhydeddau uchaf ym 1920. Dylanwadwyd yn gryf ar feddwl Kishi gan weithiau'r cenedlaetholwr Ikki Kita, un o brif ddeallusion y sosialwyr a'r militarwyr ill dau yn Japan yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd.

 
Kishi a'i deulu ym 1923. O'r chwith i'r dde: Yoshiko, Eisaku Satō yn y cefn, y plentyn Nobukazu, Kishi, a'r cefnder Hiroshi Yoshida.

Priododd Nobusuke Kishi â'i gyfnither Yoshiko Kishi (1901–80)—merch ei rieni mabwysiol—ym 1919, a chawsant fab, Nobukazu (1921–2017), a merch, Yoko (ganed 1928). Bu Yoko yn fam i Shinzō Abe, Prif Weinidog Japan o 2006 i 2007 ac eto o 2012 i 2020.

Gyrfa wleidyddol gynnar (1920–45) golygu

Wedi iddo adael y brifysgol, dechreuodd Kishi weithio yn glerc i'r Weinyddiaeth Amaeth a Masnach.[1] Erbyn 1936, fe'i dyrchafwyd i'r swydd uchaf ond un i sifiliaid yn yr adran honno o'r llywodraeth, gyda chyfrifoldeb dros ddatblygiad diwydiannol Manchukuo, gwladwriaeth byped Japan ym Manshwria. Yn y swydd ymerodrol honno, gweithiodd yn agos gyda Hideki Tōjō, pennaeth staff Byddin Kwantung.

 
Kishi (chwith) gyda'r Prif Weinidog Hideki Tōjō yn Hydref 1943.

Wedi i Tōjō ddod yn Brif Weinidog Japan yn Hydref 1941, fe benododd Kishi yn weinidog masnach a diwydiant. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd Kishi ran fawr yn yr ymdrech ryfel, gan geisio cynnal yr economi a sicrhau cael gafael ar adnoddau milwrol. Wrth i ffawd y brwydro troi yn erbyn Japan, Kishi oedd un o'r gweinidogion a wrthwynebai rhyfel diarbed am unrhyw bris, a chynorthwyodd wrth ddymchwel Tōjō yng Ngorffennaf 1944.

Cyfnod y feddiannaeth (1945–52) golygu

 
Kishi (chwith) yng nghartref ei frawd Eisaku Satō (dde), Prif Ysgrifennydd y Cabinet, wedi iddo gael ei ryddhau o Garchar Sugamo yn Rhagfyr 1948.

Yn sgil buddugoliaeth y Cynghreiriaid yn Japan yn Awst 1945, cafodd Kishi ei arestio a'i gyhuddo o fod yn droseddwr rhyfel. Treuliodd dair mlynedd yng Ngharchar Sugamo, Tokyo, yn darllen ac yn myfyrio am ryddfrydiaeth ac athroniaeth wleidyddol y Gorllewin, cyn ei ryddhau heb dreial ym 1948. Er iddo gofleidio democratiaeth fel rheol, cafodd ei siomi gan nifer o ddiwygiadau'r llywodraeth feddiannol dan arweiniad yr Americanwyr.

Dychwelyd i fyd wleidyddiaeth (1952–57) golygu

 
Cynrychiolwyr y Blaid Ryddfrydol (o'r chwith, Ōno Bamboku a Bukichi Miki) a'r Blaid Ddemocrataidd (Kishi a Ishii Mitsujirō) yn cyfarfod ym 1955 i gytuno i uno'r ddwy blaid.

Yn sgil diwedd y feddiannaeth, cychwynnodd Kishi ar ei ail yrfa wleidyddol ym 1952, yn aelod o Blaid Ddemocrataidd Japan, gan fanteisio ar ei brofiad yn y llywodraeth a'i hen gysylltiadau â dynion busnes ac aelodau eraill yr elît. Yn wir, câi Kishi ei ystyried yn feistr o machiai seiji ("gwleidyddiaeth y tŷ geisha", sef cudd-wleidyddiaeth neu wleidydda ysgwyd llaw). Ymddeolodd nifer o'r hen do o wleidyddion wedi diwedd y rhyfel, a bu farw eraill, gan roi hwb i enw Kishi yn yr oes wleidyddol newydd, ac ymhen fawr o dro fe enillodd garfan o ddilynwyr ffyddlon yn y Blaid Ddemocrataidd. Ym 1954 ymunodd ag elfennau eraill i ddymchwel y Prif Weinidog Shigeru Yoshida a rhoi Ichirō Hatoyama yn ei le. Ym 1955, unwyd y ddwy brif blaid geidwadol—y Blaid Ddemocrataidd a'r Blaid Ryddfrydol—i ffurfio'r Blaid Ddemocrataidd Ryddfrydol (Jimintō), a daeth Kishi yn ysgrifennydd cyffredinol yr honno. Byddai Kishi yn ffigur pwysig a dylanwadol yn y blaid newydd, fel canolwr rhwng ymblaid Hatoyama ac ymblaid Yoshida (a oedd dan arweiniad ei frawd, Eisaku Satō). Yng nghabinet Tanzan Ishibashi, olynydd Hatoyama ym 1956, penodwyd Kishi yn ddirprwy brif weinidog ac yn weinidog tramor. Wedi i Ishibashi ymddeol oherwydd afiechyd yn Ionawr 1957, etholwyd Kishi i'w olynu yn arweinydd Jimintō ac felly yn Brif Weinidog Japan.

Prifweinidogaeth (1957–60) golygu

 
Y Prif Weinidog Nobusuke Kishi (yng nghanol y rhes flaen) a'i gabinet (15 Mawrth 1957).

Yn ystod ei gyfnod yn brif weinidog, wynebai Kishi wrthwynebiad o sawl carfan, gan gynnwys myfyrwyr, sosialwyr, a deallusion, a oedd yn ei ystyried yn un o olion y cyfnod militaraidd ac yn rhan o'r adain dde eithafol.

Argyfwng y cytundeb diogelwch golygu

Y prif bwnc llosg yn ystod llywodraeth y Prif Weinidog Kishi oedd y cytundeb diogelwch rhwng Japan a'r Unol Daleithiau, a bwriad Kishi i newid y cyfansoddiad ac ailarfogi ei wlad. Aeth Kishi ar daith i Washington, D.C. ym Mehefin 1957 ac yno cafodd addewid gan yr Americanwyr i encilio'u holl filwyr o Japan ymhen un flwyddyn. Byddai hefyd yn sicrhau cydsyniad i gyflafareddu cytundeb cyd-amddiffyn rhwng y ddwy wlad, ac yn Ionawr 1960 fe ddychwelodd i Washington i arwyddo'r cytundeb newydd.

Er i Kishi ystyried y trafodaethau yn fuddugoliaeth ddiplomyddol i'w wlad, ac yn gamp i atgyfnerthu ei rym gwleidyddol, arweiniodd y ddadl yn y cynulliad cenedlaethol dros gadarnhau'r cytundeb at anghydfod ffyrnig a phrotestiadau enfawr. Ymunodd sosialwyr, comiwnyddion, myfyrwyr, a dealluson i wrthwynebu llywodraeth Kishi a chynhaliwyd y gwrthdystiadau mwyaf yn Japan ers degawdau. Yng nghanol Mai 1960 aeth yr heddlu i mewn i'r cynulliad i ddod â diwedd i brotest eistedd gan wleidyddion y Blaid Sosialaidd, a cheisiodd Kishi derfynu'r helynt drwy bleidlais yn y siambr isaf. Fodd bynnag, gwaethygodd y gwrthdystiadau a bu'n rhaid gohirio ymweliad gan Dwight D. Eisenhower, Arlywydd yr Unol Daleithiau, i Japan. Ar 23 Mehefin 1960 datganodd Kishi ei fod am ymddiswyddo, ac ar 19 Gorffennaf 1960 ildiodd swydd y prif weinidog i Hayato Ikeda.

Diwedd ei oes (1960–87) golygu

Parhaodd Kishi yn aelod gweithgar o Jimintō am nifer o flynyddoedd. Trigodd yn Tokyo gyda'i deulu am weddill ei oes, ac yno bu farw ar 7 Awst 1987 yn 90 oed.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) "Nobusuke Kishi" yn Encyclopedia of World Biography. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 9 Gorffennaf 2022.
  2. (Saesneg) Clyde Haberman, "Nobusuke Kishi, ex-Tokyo leader", The New York Times (8 Awst 1987). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 23 Mai 2014.

Darllen pellach golygu

  • Dan Kurzman, Kishi and Japan: The Search for the Sun (1960).
  • George R. Packard, III, Protest in Tokyo: The Security Treaty Crisis of 1960 (1960).