North Wales, Pennsylvania

Mae North Wales yn fwrdeistref yn Montgomery County, Pennsylvania, Unol Daleithiau America. Erbyn heddiw mae'n un o faerdrefi allanol Philadelphia, Pennsylvania, ac yn un o dair tref hanesyddol yn Nyffryn Gogledd Penn. Ei phoblogaeth oedd 3,342 yn nghyfrifiad 2000.

North Wales, Pennsylvania
Mathbwrdeistref Pennsylvania Edit this on Wikidata
Poblogaeth3,426 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1869 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirMontgomery County, Pennsylvania Edit this on Wikidata
GwladBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd0.59 mi², 1.520792 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr400 troedfedd Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSumneytown Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau40.2108°N 75.275°W, 40.2°N 75.3°W Edit this on Wikidata
Map
Gweler hefyd Wales (gwahaniaethu).

Cafodd y dref ei henwi'n North Wales gan ei sefydlwyr am fod nifer mawr ohonynt yn ymfudwyr o ogledd Cymru (gweler hefyd Tract Cymreig). Dechreuodd fel pentref bychan yng nghefn gwlad amaethyddol Gwynedd Township.

Newidiwyd ei natur wledig gyda adeiladu Rheilffordd Gogledd Pennsylvania, a ddechreuwyd yn 1852. Dechreuodd gwasaneth o Fethlehem i Philadelphia trwy North Wales ar y rheilffordd honno yn 1857. Tyfodd y dref yn gyflym o gwmpas yr orsaf reilffordd. Cafodd North Wales ei wneud yn fwrdeistref yn 1869, gan ychwanegu tir o Upper Gwynedd Township.

Lleoliad Pennsylvania yn UDA

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu