Nos Ystwyll

5ed neu'r 6ed o Ionawr - deuddeg diwrnod wedi dydd Nadolig

Nos Ystwyll yw'r 5ed neu'r 6ed o Ionawr - deuddeg diwrnod wedi dydd Nadolig - a diwedd yr ŵyl. Yn ôl traddodiad, dylid tynnu trimins neu addurniadau'r Nadolig i lawr erbyn y diwrnod hwn. Cysylltir hefyd nifer o draddodiadau eraill gyda'r diwrnod gan gynnwys Hela'r Dryw Bach a'r Fari Lwyd.[1]

Llun c. 1850 gan Ainsworth o ddathliadau Nos Ystwyll

Mae dyddiad Gŵyl y Nadolig yn ymwneud ag Alban Arthan a heuldro'r gaeaf (21ain neu 22ain Rhagfyr). Roedd traddodiad cyn-Gristnogol Gogledd Ewrop o ddathlu geni'r Haul ar 25 Rhagfyr yn wahanol i draddodiad gwledydd Môr y Canoldir a'r Dwyrain, a osodai heuldro'r gaeaf ar 6 Ionawr, sef Nos Ystwyll. Daeth y ddau ddyddiad i fod yn ddechrau a diwedd yr un dathliad. Mabwysiadodd eglwys y gorllewin "ddeuddeg diwrnod y Nadolig" a'u huchafbwynt ar Nos Ystwyll. Erbyn y 5g, credwyd mai dyma'r nos y cyrhaeddodd y Doethion Bethlehem. Pan fabwysiadodd y Gorllewin Galendr Gregori yn lle Calendr Iŵl daeth rhagor o ddryswch ynghylch diwedd y Nadolig, a gwrthododd yr eglwys ddwyreiniol y newid. Mae Nos Ystwyll, felly'n parhau i fod yn brif ddiwrnod dathlu'r Ymgnawdoliad mewn Eglwysi Uniongred.[2]

Ceir drama-gomedi o'r un enw gan William Shakespeare (Twelfth Night).

Arferion eraill golygu

Arferai William Bukeley ddiddanu ei gymdogion yn ei gartref yn Llanfechell, Môn, ar nos Ystwyll. Dyma'r cyntaf o 15 cofnod yn nodi'r arferiad[3]:

6/1/1737

Lle: Llanfechell Ffynhonnell: Dyddiadur William Bulkeley, Brynddu, Llanfechell, Môn (gyda chaniatad Adran Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor)

Nodiadau: 6th. 1736 / 37 The Wind W.N.W, very calm, dark & cloudy all day & all night this being my generall invitation day, I passed it merry and Cheerfull with 5 or 6 Neighbours, till ii at Night when I went to bed, the rest of the Company being Harvest labourers and Tenants staid till 12

Geirdarddiad golygu

Mae'n debyg mai "seren" (neu'r Lladin stellā + "gŵyl") yw tarddiad y gair,[4] sy'n cryfhau'r syniad i'r seren ymddangos i'r Doethion ar y dydd hwn h.y. "seren-ŵyl". Mae'n ymddangos yn gyntaf yn y Gymraeg yng ngwaith Meilyr Brydydd yn y 12g: "Ystwyll ystyryws Dews defnyt..." Yn yr eglwys, weithiau defnyddir y gair "epiffani" sy'n tarddu o'r Groeg ἐπιφάνεια neu epiphanei ("ymddangosiad duwiol").

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu