Notting Hill (ffilm)

ffilm drama-gomedi a chomedi rhamantaidd gan Roger Michell a gyhoeddwyd yn 1999

Mae Notting Hill (1999) yn ffilm gomedi rhamantaidd sydd wedi'i lleoli yn Notting Hill, Llundain. Rhyddhawyd y ffilm ar yr 21ain o Fai, 1999. Ysgrifennwyd y sgript gan Richard Curtis a ysgrifennodd Four Weddings and a Funeral hefyd. Cynhyrchwyd y ffilm gan Duncan Kenworthy, a chafodd ei chyfarwyddo gan Roger Michell. Mae'r ffilm yn serennu Hugh Grant, Julia Roberts, Rhys Ifans, Emma Chambers, Tim McInnerny, Gina McKee a Hugh Bonneville.

Notting Hill

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Roger Michell
Cynhyrchydd Duncan Kenworthy
Ysgrifennwr Richard Curtis
Serennu Julia Roberts
Hugh Grant
Hugh Bonneville
Emma Chambers
James Dreyfus
Rhys Ifans
Tim McInnerny
Gina McKee
Cerddoriaeth Trevor Jones
Sinematograffeg Michael Coulter
Golygydd Nick Moore
Dylunio
Cwmni cynhyrchu MCA-Universal
PolyGram Filmed Entertainment
Dyddiad rhyddhau DU
21 Mai, 1999
UDA
28 Mai, 1999
Amser rhedeg 124 munud
Gwlad Y Deyrnas Unedig
Iaith Saesneg
Gwefan swyddogol
(Saesneg) Proffil IMDb

Cafodd y ffilm feirniadaethau da gan y beiriniaid a gwnaeth yn dda yn y simenau, gan ennill Wobr BAFTA. Enillodd nifer o wobrau eraill gan gynnwys Gwobr Gomedi Brydeinig a Gwobr BRIT am y trac sain.

Dolenni Allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.