Dinas a chymuned (comune) yng ngogledd-orllewin yr Eidal yw Novara, sy'n brifddinas talaith Novara yn rhanbarth Piemonte. Mae'n groesffordd bwysig i draffig masnachol ar hyd y llwybrau o Milan i Torino ac o Genova i'r Swistir. Fe'i lleolir rhwng Afon Agogna ac Afon Terdoppio yng ngogledd-ddwyrain Piemonte, tua 31 milltir (50 km) o Milan a 59 milltir (95 km) o Torino.

Novara
Mathcymuned, dinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth101,257 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iChalon-sur-Saône, Koblenz, Haskovo Edit this on Wikidata
NawddsantGaudentius o Novara Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Novara Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd103.05 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr162 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaCameri, Galliate, Garbagna Novarese, Nibbiola, Romentino, San Pietro Mosezzo, Caltignaga, Granozzo con Monticello, Trecate, Casalino Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.45°N 8.62°E Edit this on Wikidata
Cod post28100 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y gymuned boblogaeth o 101,952.[1] Hi yw'r ail ddinas fwyaf poblog yn Piemonte ar ôl Torino.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 11 Tachwedd 2022
  Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Eidal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato