Iaith artiffisial a ddyfeisiwyd yn 1928 gan yr Athro Otto Jespersen, ieithydd o Ddenmarc, yw Novial (nov- "newydd" + international auxiliary language). Dyfeisiodd Novial i fod yn iaith gynorthwyol ryngwladol i gynorthwyo cysylltiadau a chyfeillgarwch rhyngwladol heb ddisodli ieithoedd brodorol. Mae geirfa'r iaith yn seiliedig ar yr ieithoedd Germanaidd a Romáwns, ac mae Saesneg yn dylanwadu ar y gramadeg. Darparwyd cyflwyniad cyntaf i Novial mewn llyfr gan Jespersen, An international language, yn 1928, gyda diweddariad yn ei eiriadur Novial Lexike ddwy flynedd yn ddiweddarach. Ar ôl marwolaeth Jespersen yn 1943 prin bod sôn am yr iaith - tan y 1990au pan ailddarganfu llawer o bobl ieithoedd artiffisial drwy'r rhyngrwyd.

Novial
Enghraifft o'r canlynolIaith artiffisial, iaith gynorthwyol ryngwladol, Esperantido Edit this on Wikidata
Mathiaith gynorthwyol ryngwladol Edit this on Wikidata
CrëwrOtto Jespersen Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1928 Edit this on Wikidata
Enw brodorolNovial Edit this on Wikidata
cod ISO 639-3nov Edit this on Wikidata
System ysgrifennuyr wyddor Ladin Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Enghraifft: Gweddi'r Arglwydd yn Novial golygu

Nusen Patre, kel es in siele,
mey vun nome bli sanktifika,
mey vun regno veni;
mey on fa vun volio
kom in siele anke sur tere.
Dona a nus disdi li omnidiali pane,
e pardona a nus nusen ofensos,
kom anke nus pardona a nusen ofensantes,
e non dukte nus en tentatione,
ma liberisa nus fro malu.
Amen.

Dolenni allanol golygu