Arwr Brythonig o'r Hen Ogledd a fu yn ei flodau ar ddiwedd y 6g a dechrau'r ganrif olynol, efallai, oedd Nudd Hael fab Senyllt.

Nudd Hael
TadSenyllt Hael Edit this on Wikidata
PlantSant Dingat Edit this on Wikidata

Cyfeirir ato mewn dau o Drioedd Ynys Prydain. Fe'i enwir gyda Rhydderch Hael a Mordaf Hael fel un o 'Dri Hael Ynys Prydain'. Mewn amrywiad ar driawd arall, 'Tri serchog Ynys Prydain', cyfeirir ato fel tad Tegau Eurfron, cariad Caradog Freichfras.

Ceir ei ach yn y testun achyddol 'Bonedd y Saint' lle mae'n fab i Senyllt fab Cedig fab Dyfnwal Hen. Os medrir dibynnu ar yr achrestr hon, yr unig un sy'n ei restru, mae hyn yn cadarnhau ei fod yn gyfoeswr â Rhydderch Hael a Mordaf. Ond mae achrestr arall yn nodi ach gwahanol ar gyfer Senyllt, tad Nudd.

I'r Cymry cynnar yr oedd Nudd yn gymeriad hanesyddol. Cyfeirir ato mewn cerdd i Urien Rheged ond heb ychwanegu at ein gwybodaeth. Ceir sawl cyfeiriad ato yng ngwaith y beirdd, yn cynnwys cerddi gan y beirdd llys Cynddelw Brydydd Mawr, Bleddyn Fardd a Llygad Gŵr, lle mae'n batrwm o haelioni. Yng ngwaith Beirdd yr Uchelwyr ceir sawl cyfeiriad arall, e.e. mewn cerddi gan Hillyn, Gwilym Ddu o Arfon, Rhisierdyn ac Y Proll.

Ffynhonnell golygu

  • Trioedd Ynys Prydein: The Triads of the Island of Britain, gol. Rachel Bromwich (Caerdydd, 1961, arg. newydd 1991)