Prif fwyd poblogaidd mewn nifer o ddiwylliannau yw nwdls. Fe’i gwneir o does croyw sy’n cael ei ymestyn neu ei rholio’n fflat a’i dorri mewn i un o amrywiaeth o siapiau. Er mai stribedi hir a thenau yw’r rhai mwyaf cyffredin, ceir llawer o fathau o nwdls wedi eu torri i mewn i donnau, tiwbiau, llinynnau, neu gregyn. Fel arfer fydd nwdls yn cael eu coginio mewn dŵr berwedig, weithiau gydag olew coginio neu halen, ac yn aml maent yn cael eu ffrïo. Yn aml bydd nwdls yn cael eu gweini gyda saws neu mewn cawl. Gellir eu cadw mewn oergell ar gyfer storio tymor byr, neu gellir eu sychu a’u storio i’w defnyddio yn y dyfodol.

Cawl a nwdls, Japan

Hanes golygu

Mae tystiolaeth o darddiad nwdls yn ffafrio’n ddrwm tuag at Tsieina. Mae’r cofnod ysgrifenedig cynharaf o nwdls i'w gael mewn llyfr wedi ei dyddio i’r cyfnod Han Dwyreiniol.[1] Daeth nwdls a wnaed o does gwenith yn brif fwyd i bobl y Brenhinllin Han[2]. Yn ystod y Brenhinllin Tang cafodd nwdls eu torri’n stribedi, ac yn y Brenhinllin Yuan dechreuwyd gwneud nwdls wed’u sychu. 

Mathau yn ôl brif gynhwysyn golygu

 
Mee pok

Gwenith golygu

  • Bakmi: nwdls Tsieinïaidd gwenith melyn o Dde-ddwyrain Asia gyda chig, fel arfer cyw iâr
  • Ch­ūka men (中華麺): enw Siapaneaidd am “Nwdls Tsieinïaidd” sy’n cael eu defnyddio ar gyfer ramen, champon, a yakisoba
  • Kesme: nwdls gwastad, melyn neu gochfrown o Ganolbarth Asia
  • Kalguksu (칼국수): nwdls Coreaidd wedi eu torri â chyllell
  • Lamian (拉麵): nwdls Tsieinïaidd wedi eu tynnu â llaw
  • Mee pok (麪薄): nwdls melyn, gwastad Tsieinïaidd, yn boblogaidd yn Ne-ddwyrain Asia
  • Pasta: nwdls Eidalaidd wedi eu gwneud o wenith caled gyda llawer o amrywiaethau
  • Reshte: nwdls gwastad o Ganolbarth Asia sydd olau eu lliw (bron yn wyn) sy’n cael eu defnyddio mewn bwyd Persiaidd ac Affganaidd
  • Sōmen (そうめん): amrywiaeth tenau o nwdls gwenith Siapan
  • Spätzle: math o nwdl Swabaidd a wnaed o wenith ac wyau
  • Thukpa (ཐུག་པ་): nwdls gwastad Tibetaidd
  • Udon (うどん): amrywiaeth mwy trwchus o nwdls gwenith Siapaneaidd 
 
Nwdls soba sych

Gwenith yr hydd golygu

  • Makguksu (막국수): arbenigedd lleol o Dalaith Gangwon yn Ne Corea
  • Soba (蕎麦): nwdls gwenith yr hydd Siapaneaidd
  • Pizzoccheri: tagliatelle gwenith yr hydd Eidalaidd o Valtellina, fel arfer yn cael eu gweini gyda saws caws 

Reis golygu

  • Bánh phở: nwdls reis Fietnamaidd
  • Vermicelli reis: nwdls reis tennau
  • Idiyappam: nwdls reis o India
  • Khanom chin: nwdls reis eplesedig a ddefnyddir mewn bwyd Tai 

Cyfeiriadau golygu

  1. Roach, John (12 Hydref 2005). "4,000-Year-Old Noodles Found in China"National Geographic. pp. 1–2
  2. Sinclair & Sinclair 2010, p. 91