Un o ddwy ffurf swyddogol yr iaith Norwyeg ysgrifenedig yw Nynorsk (yn llythrennol, "Norwyeg Newydd"). Bokmål yw'r ffurf arall swyddogol. Tra bo Bokmål yn deillio o ffurfiau Daneg a siaradwyd yn ninasoedd Norwy pan oedd y wlad honno yn perthyn i Ddenmarc ac yn cael ei defnyddio yn bennaf ar gyfer ysgrifennu safonol erbyn heddiw, mae Nynorsk yn ffurf a greuwyd yn y 19g gan Ivar Aasen ar sylfaen tafodieithoedd byw gorllewin Norwy. Mae'n llawer agosach i'r iaith lafar na Bokmål.

Eginyn erthygl sydd uchod am Norwy. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am iaith. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.