Oblast

rhaniad tebyg i 'dalaith' neu sir fawr yn boblogaidd yn nwyrain Ewrop a'r hen Undeb Sofietaidd

Oblast (Rwsieg ac Wcreineg: область ; Belarwseg: вобласць Woblasz; Serbeg a Bwlgareg област;[1] Casacheg Oblys, lluosog: Oblystar (Облыс/Облыстар) yw'r dynodiad ar gyfer ardal weinyddol fwyaf yn Belarus, Bwlgaria, Casachstan, Kyrgyzstan, Rwsia a'r Wcráin.

Oblastau Wcráin (gydag Oblast Rivne wedi uwchliwio)

Mae'r term yn aml yn cael ei gyfieithu fel "ardal", "parth", "talaith" neu "rhanbarth". Daw o'r iaith Hen Slafoneg, oblastĭ.[2] Gall y cyfieithiad olaf arwain at ddryswch, oherwydd gellir defnyddio "raion" ar gyfer mathau eraill o adrannau gweinyddol, y gellir eu cyfieithu fel "rhanbarth", "ardal" neu "sir" yn dibynnu ar y cyd-destun. Gellid ystyried raion yn ddosbarth tiriogaethol llai.

Gwladwriaethau golygu

 
Oblastau Belarws
 
Oblastau (a'r dosbarth is, okolii) yn ystod cyfnod byrhoedlog Brenhiniaeth Bwlgaria 1941-1944, noder bod rhan orllewinnol y deyrnas yn cynnwys Gogledd Macedonia a rhanbarth Thrace Gwlad Groeg gyfoes a gollwyd wedi'r Ail Ryfel Byd
 
Oblastau Ffederasiwn Rwsia yn 2005 - noder bod FfR hefyd wedi ei rannu'n weriniaethau rhanbarthau a dyna sy'n cyfri am barthau nad sydd wedi eu nodi fel oblast

Belarws golygu

Rhennir Belarws yn chwe Woblasze a phrifddinas ardal sef, Minsk.

Bwlgaria golygu

Mae Bwlgaria wedi'i rhannu'n 28 oblastiau ers 1999, y cyfeiriwyd atynt cyn 1987 fel " Okruge ". Rhwng 1987 a 1999 cyfunwyd tri i bedwar o'r hen okrugs yn un oblast.

Casachstan golygu

Rhennir Casachstan yn 14 oblystar a thair dinas statws arbennig.

Cirgistan golygu

Rhennir Kyrgyzstan yn saith oblast a dwy ddinas annibynnol Bishkek ac Osh.

Rwsia golygu

Yn Rwsia, mae'r oblast yn uned ffederal, wedi'i chynysgaeddu ag ymreolaeth weinyddol ac yn cyfateb i dalaith ffederal yr Almaen neu dalaith ffederal yr Unol Daleithiau . Mae gan oblasts lawer llai o bwerau na gweriniaethau. Ceir oblastau yn dechrau yn nhrefn y wyddor gydag Oblast Arkhangelsk.

Wcráin golygu

Mae Wcráin wedi'i rhannu'n 24 oblast, Crimea a dwy ddinas statws arbennig.

Y cyn-Undeb Sofietaidd golygu

Yn yr hen weriniaethau Sofietaidd, yr oblastau oedd yr endidau sy'n uniongyrchol waelodol i'r wladwriaeth, yn cyfateb i ranbarthau'r Eidal, ac fe'u rhennir ymhellach yn ardaloedd, a elwir yn raion (rajony: Rwsieg районы, Wcreineg райони): dyma'r achos yn yr ardaloedd o Wcráin.

Yn yr hen Undeb Sofietaidd, y llywodraeth ganolog oedd yr endid uchaf ym mhyramid llywodraethu, ac felly roedd yr oblastau ddau gam i lawr. Yn nodweddiadol, mae israniad o'r fath yn nodweddiadol o wladwriaeth â phŵer canolog, nid gwladwriaeth ffederal.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Oblast". Collins English Dictionary/Webster's New World College Dictionary.
  2. "Oblast". The Free Dictionary. 2022-04-23.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.