Mewn geometreg solat, mae ochr (face) yn blân fflat sy'n ffurfio rhan o ffin gwrthrych solat. Mae gan wrthrych solat tri dimensiwn sawl ochr, a gelwir y gwrthrych hwn yn bolyhedron e.e. mae'r ciwb yn bolyhedron ac mae ganddo 6 ochr. Mae gan bob ochr "arwyneb" (surface).[1][2]

Ochrau polygonau golygu

Prif: Polygon

Mewn geometreg elfennol, 'ochr' yw polygon ar ffin polyhedron.[3]

Er enghraifft, mae unrhyw un o'r chwech sgwâr sy'n ffurfio ciwb yn 'ochr'. Defnyddir y gair 'ochr' hefyd am nodweddion dau-ddimensiwn polytop-4. Yn yr ystyr hwn, mae gan y teseract 4-dimensiwn 24 ochr sgwâr, pob un yn rhannu dau allan o 8 cell ciwbig.

Enghreifftiau rheolaidd yn ôl eu symbol Schläfli
Polyhedron Polyhedron Serennog Brithwaith Euclidaidd Brithwaith hyperbolig 4-polytop
{4,3} {5/2,5} {4,4} {4,5} {4,3,3}
 
Mae gan y ciwb 3 ochr sgwâr i bob fertig.
 
Mae gan y dodecahedron serennog, bach 5 ochr pentagramig i bob fertig.
 
Yn y plân Ewclidaidd, mae gan y brithwaith sgwâr ('square tiling) 4 ochr i bob fertig.
 
Mae gan y brithwaith trefn-5 5 ochr i bob fertig.
 
Mae gan y teseract 3 ochr sgwâr i bob ymyl.

Cyfeiriadau golygu

  1. geiriadur.bangor.ac.uk; Y Termiadur Addysg - Celf a Dylunio, Cemeg a Bioleg, Ffiseg a Mathemateg; adalwyd 8 Tachwedd 2018.
  2. Merriam-Webster's Collegiate Dictionary (arg. Eleventh). Springfield, MA: Merriam-Webster. 2004.
  3. Cromwell, Peter R. (1999), Polyhedra, Cambridge University Press, p. 13, https://books.google.com/books?id=OJowej1QWpoC&pg=PA13.