Bardd o'r Almaen oedd Oda Schaefer neu Oda Lange (21 Rhagfyr 1900 - 4 Medi 1988) a weithiai fel newyddiadurwr.

Oda Schaefer
Ganwyd21 Rhagfyr 1900 Edit this on Wikidata
Wilmersdorf Edit this on Wikidata
Bu farw4 Medi 1988, 5 Medi 1988 Edit this on Wikidata
München Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethbardd, newyddiadurwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Gelf Schwabing Edit this on Wikidata

Ganed Oda Krus yn Wilmersdorf, Berlin ar 21 Rhagfyr 1900; bu farw yn München. [1][2][3][4]

Y blynyddoedd cynnar golygu

Roedd Oda yn ferch i Alice Baertels ac Eberhard Kraus, un o ysgrifenwyr a newyddiadurwr cynnar y Baltig, a'i wraig. Tarddai Alice o deulu o fasnachwyr o Estonia. Aeth Oda i ysgol uwchradd yn Berlin ac yna aeth i ysgol gelf breifat i hyfforddi mewn dylunio graffig. Wedi'r coleg, gweithiodd fel artist masnachol.

Yn 1923 priododd yr arlunydd Albert Schaefer-Ast, a chawsant fab yn 1924. Daeth y briodas ac ysgarodd y ddau. Yn 1926 symudodd Schaefer am resymau teuluol i Liegnitz. Yno cyfarfu â'r awdur Horst Lange, a dychwelodd i Berlin yn 1931 a phriododd y ddau yn 1933.

O 1928 ymlaen, ysgrifennodd Schaefer erthyglau am ffasiwn yn ogystal â cherddi, a dramâu. Yn ystod y Trydydd Reich roedd hi gydag Lange a Günter Eich yn y cylch o amgylch y cylchgrawn llenyddol Columna (Y Golofn), mudiad o awduron ac artistiaid a oedd yn gwrthwynebu Sosialaeth Genedlaethol ond nad oeddent yn gadael yr Almaen. Roedd Peter Huchel ac Elisabeth Langgässer yn ffrindiau agos gyda hi ar yr adeg yma. Ymddangosodd gweithiau ganddi mewn sawl cylchgrawn a phapur newydd. Roedd Schaefer yn aelod o Siambr Reich. Er bod Shaefer a'i gŵr yn gwrthwynebu'r gyfundrefn Natsïaidd, ac yn helpu Iddewon trwy eu cuddio, ar yr un pryd ysgrifennai'r ddau erthyglau ar gyfer cyhoeddiadau a gymeradwywyd yn swyddogol.

Yn dilyn yr Ail Ryfel Byd collwyd mab Oda a chafodd ei gŵr ei anafu'n ddifrifol. Buont yn byw am ychydig yng nghanol coedwig ac yna yn y Swistir, cyn symud i Munich yn 1950, lle bu'n gweithio ar ei liwt ei hun ar gyfer papurau newydd a darllediadau amrywiol.

Y llenor golygu

Mae gwaith llenyddol Schaefer yn cynnwys barddoniaeth mewn ffurfiau traddodiadol yn bennaf, wedi'u hysbrydoli gan y bardd natur Wilhelm Lehmann, a George von Vring. Gyda Horst Lange ysgrifennodd Trümmerliteratur o'r cyfnod ar ôl y rhyfel ynghyd ag awduron y Grŵp 47.

Llyfryddiaeth golygu

  • Die Windharfe. Berlin 1939.
  • Irdisches Geleit. München 1946.
  • Die Kastanienknospe. München 1947.
  • Unvergleichliche Rose. Stuttgart 1948.
  • Katzenspaziergang. München 1956.
  • Grasmelodie. München 1959.
  • Die Boutique. München 1963.
  • Ladies only oder Von der Kunst, Dame zu sein. Zürich 1963.
  • Und fragst du mich, was mit der Liebe sei. München [u. a.] 1968.
  • Auch wenn Du träumst, gehen die Uhren. München 1970.
  • Der grüne Ton. München 1973.
  • Die Haut der Welt. München [u. a.] 1976.
  • Die leuchtenden Feste über der Trauer. München 1977.
  • Wiederkehr. München [u. a.] 1985.
  • Balladen und Gedichte. München 1995.
  • Auch wenn Du träumst, gehen die Uhren – Erinnerungen bis 1945 und aus der Nachkriegszeit (beide Erinnerungsbände in einem Band), München 2012.
  • Immer war ich. Immer werde ich sein. Gedichte aus 50 Jahren, München 2012.

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Croes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Gwobr Gelf Schwabing (1973) .


Cyfeiriadau golygu

  1. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 24 Ebrill 2014
  2. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 24 Ebrill 2014 "Oda Schaefer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Oda Schaefer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Oda Schaefer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  3. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 24 Ebrill 2014 "Oda Schaefer". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. (yn en) Internet Movie Database, Wikidata Q37312, https://www.imdb.com/, adalwyd 20 Hydref 2019
  4. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de, en), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014