Ogof Ffynnon Ddu

Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru

Ogof ger Penwyllt ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw Ogof Ffynnon Ddu. Gorwedd dan lethr yn y Fforest Fawr tua milltir a hanner i'r dwyrain o bentref Craig-y-nos. Gyda dyfnder o 308m a thua 50 km (31 milltir) o hyd mae hi'n un o'r ogofâu dyfnaf a hiraf ym ngwledydd Prydain a hi yw'r gyntaf i gael ei dynodi fel Gwarchodfa Natur Genedlaethol.

Ogof Ffynnon Ddu
Mathogof, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Arwynebedd385.74 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8243°N 3.6611°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion
Rhan o Ogof Ffynnon Ddu

Ar lawr yr ogof mae palmant calchfaen a thu fewn mae stalagmitau a stalagtitau, rhaeadrau, culfeydd syrth a sympiau. Mae pum mynedfa i'r ogof.

Peter Harvey ac Ian Nixon wnaeth ddarganfod Ogof Ffynnon Ddu - yn 1946. Roeddent ill dau'n aelodau o Glwb Ogofâu De Cymru a oedd newydd ei sefydlu.[1] Darganfuwyd fod yr ogof yn ymestyn i wahanol gyfeiriadau yn 1967, a cheir ynddi strwythurau cymhleth o garreg a nant tanddaearol.

Cyfeiriadau golygu

  1. Cave discovery anniversary marked BBC Wales - 16 Medi 2007

Dolen allanol golygu