Ogof Fingal

ogof enwog yn yr Alban. Ysbrydoliaeth cerddorieth enwog gan Felix Mendelssohn

Mae Ogof Fingal ar ynys Stafa, un o Ynysoedd Mewnol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban. Mae’r ogof yn nodweddiadol am ei cholofnau Basalt, ac yn denu twristiaid, fel arfer o ynys Muile, 10 cilomedr i ffwrdd. Mae’r ogof yn 75 medr o hyd, 14 medr o led a 22 medr o uchder. Enw Gaeleg yr ogof yw Uamh-Binn (ogof melodi). Crewyd yr ogof a Sarn y Cawr (Saesneg: Giant’s Causeway) gan yr un llif o lafa tua 60 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Yn ôl chwedl, roeddent yn rhan o bont defyddiwyd gan Fionn mac Cumhaill i gyrraedd yr Alban.[1]

Ogof Fingal
Mathogof arfordirol, ogof i ymwelwyr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau56.43139°N 6.34142°W Edit this on Wikidata
Hyd1,130 metr Edit this on Wikidata
Cyfnod daearegolPaleosen Edit this on Wikidata
Map
Tu mewn i'r ogof

Ysbrydolwyd Felix Mendelssohn i greu cerddoriaeth gan yr ogof a sŵn y tonnau.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan atlasobscura
  2. "Gwefan visitscotland.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-09-28. Cyrchwyd 2020-05-13.