Pobl oedd byw yn ne Mecsico a rhan ogleddol Canolbarth America oedd yr Olmec. Bu yn diwylliant yn sail i neu'n ddylanwad pwysig ar nifer o ddiwylliannau eraill, megis y Maya.

Cerflun Olmec

Blodeuai'r diwylliant rhang 1500 CC a 100 CC yn yr hyn sy'n awr yn daleithiau Tabasco a Veracruz. Adeiladasant demlau mawr ar ffurf pyramidiau, ac roedd eu harlunwaith yn nodedig, ac yn enwedig y cerfluniau o bennau. Seilid eu hecomomi ar fasnach. Tua 100 CC, cipiwyd eu tiriogaethau gan y Maya a'r Zapotek.

Prif ardaloedd yr Olmec