Grŵp pop o fechgyn Saes-Wyddelig sydd wedi'u lleoli yn Llundain ydy One Direction (a adwaenir weithiau fel 1D). Enwau'r aelodau yw Harry Styles, Louis Tomlinson, Niall Horan, Zayne Malik a Liam Payne. Arwyddon nhw gytundeb gyda chwmni recordiau Simon Cowell, Syco, ar ôl i'r grŵp gael ei ffurfio a dod yn drydydd yn y seithfed gyfres o'r gystadleuaeth canu Prydeinig, X Factor yn 2010. Gan ddefnyddio pŵer rhwydweithio cymdeithasol, torrodd tair albwm cyntaf y grŵp, "Up All Night", "Take Me Home" a "Midnight Memories" (2013) nifer o recordiau, gan gyrraedd brig y siartiau yn y mwyafrif o wledydd gorllewinol. Cafodd y senglau "What make you beautiful", "Live while we're young" a "Story Of My Life" lwyddiant masnachol hefyd. Mae sengl arall allan hefyd sef '"Midnight Memories"' ac mae'r sengl yma wedi cael miliynau o wylwyr ar youtube diwrnodau ar ôl iddo gael ei ryddhau.

One Direction
One Direction
Gwreiddiau Llundain
Cefndir Grŵp / band
Math pop
Blynyddoedd 2010 - presennol
Label Syco, Columbia
Aelodau presennol Harry Styles
Niall Horan
Liam Payne
Louis Tomlinson

Mae eu llwyddiannau'n cynnwys dau Wobr BRIT a phedair Gwobr Fideo Gerddorol MTV ymysg eraill. Yn ôl Nick Gatfield, cadeirydd a phrif weithredwr Sony Music Entertainment UK, roedd One Direction yn cynrychioli busnes gwerth $50 miliwn ym mis Mehefin 2012. Cyhoeddoedd The Huffington Post 2012 yn "The Year of One Direction".[1] Erbyn Ebrill 2013, amcangyfrifir fod gan y band gyfoeth personol o £25 miliwn rhyngddynt.[2] Pan ryddhawyd "Midnight Memories", daeth One Direction y band cyntaf mewn 60 mlynedd i gael eu tri albwm cyntaf i gyrraedd brig y siart albymau Americanaidd. Yn ogystal â hyn, roedd yr albwm yn llwyddiant fyd-eang, gan gyrraedd #1 yn Siart Albymau'r DU a'r US Billboard 200. Dyma hefyd oedd yr albwm a werthodd gyflymaf yn y DU yn 2013.

Hanes golygu

2010–11: The X Factor golygu

Yn 2010, mynychodd Niall Horan, Zayn Malik, Liam Payne, Harry Styles, a Louis Tomlinson glyweliadau'r seithfed gyfres o'r X Factor fel cantorion solo.[3] Ni lwyddodd yr un ohonynt i gyrraedd categori'r "Bechgyn" yn nhai'r beirniaid ond cawsant eu rhoi i mewn i grŵp pop bechgyn yn Arena Wembley, yn Llundain ym mis Gorffennaf 2010, yn ystod rhan "bootcamp" o'r gyfres,[4]. O ganlyniad, llwyddon nhw fynd trwyddo i gategori'r "Grwpiau". Honna Nicole Scherzinger, beirniad gwadd,[3][5][6] a Simon Cowell mai nhw feddyliodd gyntaf am ffurfio'r band. Yn 2013, dywedodd Cowell ei fod wedi cymryd deng munud iddo eu ffurfio fel grŵp.[7] Ar ôl hyn, unwyd y bechgyn am bythefnos er mwyn iddynt ddod i adnabod ei gilydd ac i ymarfer.[8][9] Styles feddyliodd am yr enw One Direction.[8] Disgrifiodd Cowell eu perfformiad yn nhy'r beirniaid fel perfformiad "hyderus, hwyl, fel criw o ffrindiau, ond heb unrhyw ofn hefyd."[10] O fewn y pedair wythnos cyntaf o'r gyfres X Factor, nhw oedd yr act olaf a oedd gan Simon Cowell yn y gystadleuaeth.[11] Cynyddodd poblogrwydd y grŵp yn gyflym iawn yn y Deyrnas Unedig.[10]

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.