Online Mendelian Inheritance in Man

Cronfa ddata sy'n catalogio pob afiechyd gyda chydran genetaidd ydy'r prosiect Online Mendelian Inheritance in Man. Pan yn bosib mae'r cronfa ddata yn cysylltu'r afiechyd gyda'r genyn priodol yn y genom dynol gan ddarparu cyfeiriadau ar gyfer ymchwil pellach ac adnoddau er mwyn dadansoddi'r genyn catalogedig.

Fersiynau golygu

Ceir llyfr yn seiliedig ar y prosiect ac ar hyn o bryd mae yn ei ddeuddegfed argraffiad. Gelwir y fersiwn arlein yn Online Mendelian Inheritance in Man (OMIM).

Y broses grynhoi golygu

Casglwyd a phroseswyd y wybodaeth yn y gronfa ddata hwn o dan arweiniad Dr. Victor A. McKusick ym Johns Hopkins University, a chyda cymorth tîm o olygyddion ac ysgrifenwyr gwyddonol. Caiff erthyglau perthnasol eu hadnabod, trafod ac ysgrifennu yn y cofnodion perthnasol yng nghronfa ddata MIM.