Oriel Genedlaethol yr Alban

oriel gelf yng Nghaeredin

Oriel gelf a leolir yng Nghaeredin yn yr Alban yw Oriel Genedlaethol yr Alban (Saesneg: National Gallery of Scotland). Mae ei chasgliad o gelfweithiau, yn dyddio o dua 1300 i tua 1900, yn cynnwys gweithiau gan Raffael, Titian, El Greco, Diego Velázquez, Rembrandt, Peter Paul Rubens, Jan Vermeer, J. M. W. Turner a llawer o'r Argraffiadwyr ac Ôl-Argraffiadwyr. Mae'r oriel yn un o blith llawer yn sefydliad Orielau Cenedlaethol yr Alban, sydd hefyd yn cynnwys orielau arbennig ar gyfer portreadau a chelf fodern.

Oriel Genedlaethol yr Alban
Mathoriel gelf, amgueddfa genedlaethol Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1859 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1859 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolOrielau Cenedlaethol yr Alban Edit this on Wikidata
LleoliadCaeredin Edit this on Wikidata
SirDinas Caeredin Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau55.9509°N 3.195661°W, 55.950902°N 3.195686°W Edit this on Wikidata
Cod postEH2 2EL Edit this on Wikidata
Rheolir ganOrielau Cenedlaethol yr Alban Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig categori A Edit this on Wikidata
Manylion

Lleolir y casgliad mewn adeilad glasurol ar The Mound, rhwng hen dref a thref newydd Caeredin, gan y pensaer William Henry Playfair. Gosodwyd y garreg sylfaen gan y Tywysog Albert ym 1850, ac fe agorodd i'r cyhoedd ym 1859. Mae estyniad tanddaearol bellach yn cysylltu'r oriel ag adeilad Academi Frenhinol yr Alban.

Llyfryddiaeth golygu

  • Clarke, Michael (2007). "Introduction". A Companion Guide to the National Gallery of Scotland. Edinburgh: National Galleries of Scotland. tt. 7–11.CS1 maint: ref=harv (link)

Dolenni allanol golygu