Oriel Mostyn

oriel gelf yn Llandudno, gogledd Cymru

Oriel gelf a leolir yn Llandudno ydy Oriel Mostyn. Fe'i adwaenir bellach yn swyddogol fel "Mostyn" yn unig.

Oriel Mostyn

Sefydlwyd oriel gelf ar y safle hon yn wreiddiol ym 1901 gan yr Arglwyddes Augusta Mostyn, a oedd yn ffotograffydd. Roedd yr oriel yn gartref i Gymdeithas Gelf Merched Gwynedd (Gwynedd Ladies’ Arts Society). Honir mai dyma’r oriel gelf arbennig gyntaf ar gyfer celf gan ferched yn y byd. Fe’i sefydlwyd oherwydd i ferched gael eu gwahardd rhag ymuno â’r Academi Frenhinol Gymreig, ond roedd yr aelodau’n dod o hyd a lled Prydain.[1]

Adeiladwyd yr oriel yn 1900–1 i gynlluniau pensaer ystâd Mostyn, G. A. Humphreys.[2] Roedd ar safle Pafiliwn Celf a Crefft Eisteddfod Genedlaethol 1896.[1] Ym 1976 fe'i penodwyd yn adeilad rhestredig Gradd II.[2]

Caeodd yr oriel wreiddiol ym 1913, ond yn 1976 awgrymodd yr arlunydd Kyffin Williams, ymhlith eraill, y dylid newid yr adeilad yn ôl i fod yn oriel gelf. Ailagorwyd Oriel Mostyn yn 1978, wedi'i atgyweirio gan y ffýrm pensaernïol Colwyn Ffoulkes. Bu atgyweriad arall rhwng 2007 â 2010 gan y penseiri Ellis Williams.[1] Enillodd y prosiect hwn y Fedal Aur ar gyfer pensaernïaeth yn Eisteddfod Genedlaethol 2011; wrth ddyfarnu'r anrhydedd disgrifiwyd yr oriel fel "tirnod dinesig o bwysigrwydd cenedlaethol i Gymru" gan y beirniaid.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2  Cyntaf yn y Byd – a Rhybudd. Mostyn. Adalwyd ar 8 Mawrth 2015.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Mostyn Art Gallery, including Office and Shop on ground floor, Llandudno. British Listed Buildings. Adalwyd ar 8 Mawrth 2015.
  3.  Medal Bensaernïaeth i Oriel Mostyn. golwg360 (31 Gorffennaf 2011). Adalwyd ar 8 Mawrth 2015.

Dolenni allanol golygu