Dinas hanesyddol yng ngogledd canolbarth Ffrainc yw Orléans, sy'n brifddinas weinyddol département Loiret a rhanbarth Centre hefyd. Gorwedd ar lan Afon Loire 116 km i'r de-orllewin o Baris. Gelwir ei thrigolion yn Orléanais. Mae'n sedd esgobaeth ers y 4g. Enwir dinas New Orleans (Nouvelle Orléans) yn yr Unol Daleithiau ar ôl Orléans.

Orléans
Mathcymuned, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth116,617 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethOlivier Carré Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Lugoj, Kraków, Dundee, Treviso, Kristiansand, Wichita, Kansas, Tarragona, Utsunomiya, Parakou, Münster, Saint-Flour, Yangzhou, New Orleans, Meknès Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCentre-Val de Loire Edit this on Wikidata
SirLoiret
GwladFfrainc Edit this on Wikidata
Arwynebedd27.48 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr116 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Loire, Loiret Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaFleury-les-Aubrais, La Ferté-Saint-Aubin, Olivet, Ardon, Saint-Cyr-en-Val, Saint-Jean-de-Braye, Saint-Jean-de-la-Ruelle, Saint-Jean-le-Blanc, Saint-Pryvé-Saint-Mesmin, Saran, Semoy Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau47.9022°N 1.9042°E Edit this on Wikidata
Cod post45000, 45100 Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Maer Orléans Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethOlivier Carré Edit this on Wikidata
Map
Afon Loire yn llifo trwy Orléans
Erthygl am y ddinas yn Ffrainc yw hon. Gweler hefyd Orleans (gwahaniaethu).

Yn 1428, yn ystod y Rhyfel Can Mlynedd, roedd y Saeson yn gwarchae ar ddinas Orléans. Yn 1429, perswadiodd merch ieuanc o blith y werin, Jeanne d’Arc, y Dauphin, Siarl VII, i’w gyrru i godi’r gwarchae, gan ddweud ei bod wedi cael gweledigaeth gan Dduw yn gorchymyn iddi yrru’r Saeson allan. Llwyddodd i godi’r gwarchae o fewn naw diwrnod, ac ysbrydolodd y Ffrancwyr i gipio nifer o gaerau’r Saeson ar hyd Afon Loire. Yn fuan wedyn, cafodd y Ffrancwyr fuddugoliaeth dros y Saeson ym Mrwydr Patay. Coronwyd y Dauphin yn Reims fel Siarl VII, gyda Jeanne yn ei arwain i'w goroni.

Dioddefodd y ddinas lawer o ddifrod yn yr Ail Ryfel Byd, yn enwedig yn 1940, ond mae'r eglwys gadeiriol ganoloesol yn dal i sefyll. Mae Neuadd Dref Orléans (hôtel de ville) yn dyddio o'r 16fed ganrif.

Adeiladau a chofadeiladau golygu

  • Canolfan Charles Peguy
  • Tŷ Jeanne d'Arc

Enwogion golygu

Dolenni allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am Ffrainc. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.