Osijek

dinas, Croatia

Osijek (Lladin: Mursa, Essec, Hwngareg: Eszek, Almaeneg: Esseg, Twrceg: Ösek) yw pedwerydd dinas fwyaf Croatia, ac mae'n brifddinas sir Osijek-Baranja a'r ddinas fwyaf yn rhanbarth Slavonia. Mae'n ddinas hanesyddol a phrifysgol, ac mae ar lan dde yr afon Drava, 25 km o'r cydlifiad ag Afon Donaw.

Osijek
Mathtref yn Croatia, dinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth96,313 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Pécs, Maribor, Pforzheim, Ploiești, Tuzla, Nitra, Prizren, Subotica, Lausanne, Vicenza, Budapest District XIII, Elbasan, Kranj Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Osijek-Baranja Edit this on Wikidata
GwladBaner Croatia Croatia
Arwynebedd174.9 km², 59.1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr94 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaTrpinja, Erdut, Šodolovci, Antunovac, Čepin, Petrijevci, Darda, Bilje Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.5603°N 18.6703°E Edit this on Wikidata
Cod post31000 Edit this on Wikidata
Map

Etymoleg golygu

Daw'r enw Osijek o'r Croateg, oseka sy'n golygu "trai llanw" gan gyfeiro at y ffaith fod yr aneddiad ar dir ychydig yn uwch na'r tir dyfrllyd ac afon oddi cwmpas. Ei enw hanesyddol oedd Mursa, sydd, ymddengys yn dod o'r gwaraidd Proto-Indo-Ewropeaidd, *móri (môr, corstir). Dyma'r un gwraidd a welir yn yr enwau lleoloedd "Marsonia" a "Mariniana".[1]

Hanes golygu

 
Stamp ddwyieithog, Croatieg ac Almaeneg o Osiek, Teyrnas Hwngari, 1873

Ceir olion o aneddiad yn yr ardal yn ymestyn yn ôl i'r oes Neolithig. Roedd y rhanbarth yn cael ei phoblogi gan lwythau o'r bobl Ilireg ac yna y Celtiaid. Cododd Adrià boblogaeth Ilireg Mursa yn 131OC fel trefedigaeth o'r Ymerodraeth Rufeinig a'i gelwid yn Colonia Aelia Mursa yn 132OC.[2] Roedd yn lleoliad yn faes y gâd i nifer o frwydrau, yn eu plith brwydr yn 260OC rhwng Aureol ac Ingenu ac 351OC rhwng Constanci II a Magnenci.

Yn y 7g, ymsefydlodd y Slafiaid wrth iddynt symud ar draws Ewrop o'r dwyrain. Ymsefydlodd y Slafiaid yn adfeilion caer Mursa a sefydlu anheddiad o'r enw Osijek. Ni chafodd y dref ei grybwyll yn yr ysgrifau hyd at 1196. Daeth y dref o dan reolaeth y teulu Hwngareg, Karogyi, rhwng 1353 a 1472. Ar 8 Awst 1526, cafodd y dref ei ysbeilio gan yr Otomaniaid a'i ddinistrio. Adeiladwyd pont cwch yn y ddinas a groesodd i fynd i dref Mohács (sydd bellach yn Hwngari). Yn hwyrach ymlaen daeth Osijek, (neu Ösek fel y'i gelwyd gan y Twrciaid)yn fan croesi ar gyfer y Drava yn 1521 dan deyrnasiad Swltan Suleiman Wych (the Magnificent) gan groesi sawl corsdir. Roedd y bont yn 12,850 metr o hyd gan 25.5 metr o led ac ystyriwyd hi y bont hiraf yn Ewrop os nad y byd, ar un cyfnod. Adeiladwyd pontydd cwch ar gyfer ymgyrchoedd 1532, 1541 a 1543 a phont barhaol ym 1566. Chwaraeodd y bont rhan bwysig yn y rhyfeloedd rhwng Awstria a'r Twrciaid.[3]

Dyrchafwyd Ösek yn sanjak (sir yn ôl system reoli'r Twrcaidd) yn yr 17g oddi fewn i'r eyalat (talaith Twrcaidd) Budin.

Un o ddigwyddiadau pwysicaf hanes y ddinas oedd y cyrch arno yn 1664. Gan fod y gaer rhwng dros 200 km y tu fewn i diriogaeth Otoman a bod yr amddiffynfeydd yn gadarn, doedd yr Otomiaid ddim yn disgwyl unrhyw ymosodiad pan ddigwyddodd y cyrch gan yr Hwngariaid a'r bardd Nicolas Zrinyi (1 Chwefror 1664) a llosgwyd y bont. Er i'r Twrciaid ei hailadeiladu fe'i dinistriwyd eto yn 1685 gan y Cadfridog Lesley. Ar 29 Medi 1687, meddianwyd y dref gan yr Ymerodraeth Hapsburgiaid Awstria yng Nghytundeb Karlowitz 1699. Ad-dalwyd y 'dref uchaf' (Gornji Grad) yn 1692 a'r 'dref isaf' (Donji Grad) yn 1698. Rhwng 1712 a 1721 adeiladwyd caer adnabyddus newydd gan Tvrda. Parhaodd y ddwy ddinas yn fwrdeistrefi ar wahân nes iddynt ymuno yn 1786. Ar ddiwedd y 18g, disodlodd bwrdeistref unedig Osijek, y dref gyfagos, Virovitica, fel prif dref weinyddol sir Verőce o dan reolaeth Hwngareg. Er gwaethaf bod yn rhan o deyrnas Hwngari adnabwyd hi gan yr enw ddwyieithog, Croateg ac Almaeneg, Osiek-Essek ers 1870 hyd nes cwymp Ymerodraeth Awstria-Hwngari yn 1918.

Yn 1809 derbyniodd Osijek y teitl fel Dinas Ymerodraethol Rydd ac yn y 19g dyma oedd prif ddinas Croatia. Roedd yn rhan o dalaith Croatia-Slavonia ers 1850, ac wedi Cyfaddawd 1867 mewngorfforwyd hi fewn i Deyrnas Croatia-Slavonia yn Transleithania o dan Deyrnas Hwngari.

Ehangodd y ddinas yn yr 20g gan amlyncu cymdogaethau fel Sjenjak, Vijenac, Jug a Jug II. Yn rhyfel annibyniaeth Croatia oddi ar Iwgoslafia rhwng 1991 a 1995, dioddefodd Osijek (a'r ddinas gyfagos, Vukovar) ddinisr diffrifol drwg-enwog. Bu farw mwy na 1,000 o drigolion yn y bomio. Mae difrod bellach wedi'i adfer.

Nodweddion Osijek Gyfoes golygu

  • Prifysgol - lleolir Prifysgol Osijek Josip Juraj Strossmayer (Sveučilište J.J. Strossmayera u Osijeku) yn y ddinas. Ffurfiwyd hi yn 1975 ac mae iddi 12 athrofa, 4 adran ac 1 academi. Enwyd y brifysgol ar ôl Josip Juraj Strossmayer (4 Chwefror 1815 – 8 Mai 1905) a oedd yn esgob Catholig ac ymgyrchydd dros ffederaliaeth ac uno tiroedd Croatieg o fewn Ymerodraeth Awstria-Hwngari ac o blaid y defnydd swyddogol ac addysol o'r iaith Croatieg.
  • Pêl-droed - mae gan y ddinas dîm pêl-droed, NK Osijek a sefydlwyd yn 1947. Dyma oedd clwb fwyaf llwyddiannus o dalaith Slavonia yn ystod cyfnod Iwgoslafia Gomiwnyddol ac, wedi annibyniaeth Croatia yn1992, mae'n un o'r pedwar tîm nad sydd erioed wedi ei cwympo o'r Uwch Gynghrair Croatia. Y timau eraill yw Dinamo Zagreb, Hajduk Split a Rijeka.

Chwaraeodd Cymru ym maes y clwb, Stadion Gradski vrt, yn ei gêm yn erbyn Croatia ar 8 Mehefin 2019.

Poblogaeth golygu

 
Pont droed dros y Drava

Yn 2001 roedd gan Osijek 114,616 o drigolion (Croatiaid: 86.5%, Serbiaid: 7.5% , Hwngariaid: 1% gyda Catholigion yn 84%, Uniongred yn 7.5%, a Mwslemiaid yn 1% Mwslimiaid a chrefyddau eraill). Y boblogaeth ym 1910 oedd 31,388 o drigolion (Croatiaid: 12,000, Almaenwyr: 11,000, Iddewon: 7,500, Hwngariaid: 3,500); Yn 1981 roedd yn 158,790 (57% Croatiaid a 19% yn Serbiaid); Yn 1991 roedd yn 165.253 (67% Croatiaid, 20% Serbiaid, 2% Hwngariaid).

Gefeilldrefi Osijek [1] Archifwyd 2008-04-18 yn y Peiriant Wayback. golygu

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. http://linguistforum.com/outside-of-the-box/croatian-toponyms/
  2. Treasures of Yugoslavia, published by Yugoslaviapublic, Beograd, available in English, German and Serbo-Croatian, 664 pages, 1980
  3. Augustin Calmet, Histoire ecclésiastique et civile de Lorraine, p. 1048

Dolenni allanol golygu