Brenin Bryneich oedd Oswy (c. 612 – 15 Chwefror 670) (neu Oswiu, Oswig). Lladdwyd ei dad Æthelfrith o Frynaich mewn brwydr yn erbyn Rædwald, Brenin Dwyrain Anglia ac Edwin of Deira ar lan 'afon Idle' yn 616. Bu'n alltud, gyda'i frodyr, nes y bu farw Edwin yn 633.

Oswy
Ganwyd612 Edit this on Wikidata
Bu farw15 Chwefror 670 Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn Edit this on Wikidata
Swyddbrenin Northumbria, brenin Brynaich, brenin Deifr, brenin Deifr, brenin Deifr Edit this on Wikidata
TadÆthelfrith o Northumbria Edit this on Wikidata
MamAcha of Deira Edit this on Wikidata
PriodEanflæd, Rhiainfellt Edit this on Wikidata
PartnerFín Edit this on Wikidata
PlantAldfrith, Alhfrith of Deira, Ælfwine of Deira, Ecgfrith of Northumbria, Ælfflæd of Whitby, Osthryth, Alhflæd Edit this on Wikidata
LlinachLeodwaldings Edit this on Wikidata

Yn dilyn marwolaeth ei frawd Oswallt, brenin Northumbria (a roddodd ei enw i Groesoswallt) a laddwyd gan Penda a gwyr Gwynedd ym Mrwydr Maes Cogwy (Saesneg: Battle of Maserfield), yn fwy na thebyg ar 5 Awst 641, fe goronwyd Oswy yn frenin Brynaich. Tawel oedd ei hanes am y ddegfawd nesaf hyd nes i'r Brenin Penda, yn 655, ymosod ar Frynaich. Gyda chymorth gwŷr Gwynedd, lladdwyd Penda ym Mrwydr Maes Gai (neu Frwydr Gwinwaed). Sefydlodd ei hun yn frenin ar Fersia.