Dinas ym Moroco yw Ouarzazate (Amazigh: Warzazat, Arabeg: ورزازات), sy'n brifddinas y dalaith o'r un enw yn rhanbarth Souss-Massa-Draâ yn ne canolbarth y wlad. Yn 2004 roedd ganddi boblogaeth o 56,616. Lleolir Ouarzazate ar uchder o 1,160 m yng nghanol llwyfandir noeth, i'r de o fynyddoedd yr Atlas Uchel. I'r de o'r ddinas mae'r anialwch yn cychwyn, rhan o'r Sahara, ac felly fe'i llysenwir yn "borth yr anialwch". Mae trwch y boblogaeth yn Ferberiaid, a nodweddir Ouarzazate a'r cylch gan y kasbahs niferus a godwyd ganddynt yn y gorffennol. Mae Ouarzazate yn denu ymwelwyr fel man cychwyn teithiau trwy Ddyffryn Draa a'r anialwch. Mae pentref caerog (ksar) Aït Benhaddou yn Safle Treftadaeth y Byd ar restr UNESCO.

Ouarzazate
Mathtref, urban commune of Morocco Edit this on Wikidata
Poblogaeth71,067 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iMaubeuge, Mardin Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Ouarzazate Edit this on Wikidata
GwladBaner Moroco Moroco
Uwch y môr1,151 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau30.9167°N 6.9167°W Edit this on Wikidata
Cod post45000 Edit this on Wikidata
Map
Canol Ouarzazate
Medina (hen ddinas) Ouarzazate

Dyma ganolfan lleoliadau ffilm fwyaf Moroco. Saethwyd ffilmiau adnabyddus fel Lawrence of Arabia (1962), Star Wars (1977), The Living Daylights (1987), The Last Temptation of Christ (1988), The Mummy (1999), Gladiator (2000) a Kundun gan Martin Scorsese (1997) yn ardal Ouarazate.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Foroco. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato