Actor o Gymro yw Owain Arthur (ganwyd 5 Mawrth 1983) sy'n adnabyddus yng Nghymru am ei waith ar Rownd a Rownd. Daeth i sylw ehangach yn chwarae Francis Henshall yng nghynhyrchiad y National Theatre o One Man, Two Guvnors yn theatr y Royal Haymarket. Dilynodd yr actor James Corden yn y rhan a cafodd gyfle yn ddiweddarach i berfformio'r sioe yn Hong Kong, Seland Newydd ac Awstralia.[1][2]

Owain Arthur
Ganwyd5 Mawrth 1983 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata

Treuliodd ei flynyddoedd cynnar yn Rhiwlas yn Nyffryn Ogwen lle mynychodd Ysgol Rhiwlas ac Ysgol Dyffryn Ogwen.[3] Cychwynnodd ei yrfa actio pan oedd yn 11 oed gan chwarae'r cymeriad Aled Shaw ar gyfres sebon S4C Rownd a Rownd am naw mlynedd.[4] Fel plentyn bu'n mynychu yr ysgol berfformio lleol, Ysgol Glanaethwy ac aeth ymlaen i hyfforddi yn Ysgol Gerdd a Drama y Guildhall yn Llundain.

Mae wedi perfformio mewn sawl rhan yn y theatr gan gynnwys Romeo and Juliet ar gyfer y Royal Shakespeare Company, The Comedy of Errors yn y Royal Exchange Theatre a Birdsong yn y Comedy Theatre. Mae hefyd wedi gweithio yn helaeth ar deledu Prydeinig.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Where to, Guvnor? Comedy star Owain Arthur almost became a cabbie". Evening Standard. 18 Hydref 2013.
  2. Karen Price (24 Ionawr 2014). "Owain Arthur looks ahead to life after One Man, Two Guvnors". walesonline.
  3.  Owain Arthur, Un dyn, Un sioe. S4C (2013). Adalwyd ar 25 Gorffennaf 2017.
  4.  Llais Ogwan - y Gwyll. Llais Ogwan (Chwefror 2015). Adalwyd ar 25 Gorffennaf 2017.
  5. Aled Blake (16 Mawrth 2012). "Actor Owain Arthur wins rave reviews after taking James Corden's hit role". walesonline.

Dolenni allanol golygu