Owain Cyfeiliog

tywysog a bardd

Roedd Owain ap Gruffudd ap Maredudd (tua 11301197) yn dywysog ar y rhan ddeheuol o Bowys ac yn fardd. Adwaenir ef fel Owain Cyfeiliog i'w wahaniaethu oddi wrth frenin Gwynedd ar yr un adeg, oedd hefyd yn dwyn yr enw Owain ap Gruffudd ac a adwaenir fel Owain Gwynedd.

Owain Cyfeiliog
Ganwyd1130 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw1197 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, teyrn Edit this on Wikidata
SwyddPowys Wenwynwyn Edit this on Wikidata
TadGruffudd ap Maredudd ap Bleddyn Edit this on Wikidata
MamGwerful ferch Gwrgeor ap Hywel ab Ieuan Edit this on Wikidata
PriodGwenllian ferch Owain Gwynedd Edit this on Wikidata
PlantGwenwynwyn ab Owain, Meddefus ferch Owain Cyfeiliog, Gwerful ferch Owain Cyfeilliog ap Gruffudd ap Maredudd, Cadwallon ab Owain Cyfeiliog ap Gruffudd, Hywel Grach ab Owain Cyfeiliog Edit this on Wikidata

Ei oes golygu

Roedd Owain yn fab i Gruffudd ap Maredudd a'i wraig Gwerful ferch Gwrgenau, o linach Elystan Glodrydd, ac yn nai i Madog ap Maredudd, y brenin olaf i deyrnasu dros y cyfan o Bowys. Rhoddodd Madog gwmwd Cyfeiliog iddo yn 1147. Ar farwolaeth Madog yn 1160 daeth Owain yn dywysog y rhan fwyaf o dde Powys. Cwmwd Cyfeiliog, ar ororau'r deyrnas, oedd ei etifeddiaeth, ond roedd yn dir a hawliwyd gan dywysogion Gwynedd a Deheubarth yn ogystal, ac ansicr oedd ei afael arno; fe'i hawliwyd gan yr Arglwydd Rhys yn 1167, er enghraifft.

Mae cofnod amdano'n cydweithredu a thywysogion eraill Cymru i wrthsefyll ymosodiad y brenin Harri II o Loegr yn 1165. Wedi hynny ei bolisi oedd cefnogi'r goron Seisnig. Yn 1170 rhoddodd dir i'r Sistersiaid yn Hendy-gwyn i sefydlu Abaty Ystrad Marchell. Yn 1188, fodd bynnag, gwrthododd gyfarfod na chefnogi Baldwin, Archesgob Caergaint a Gerallt Gymro ar eu taith o amgylch Cymru i gasglu milwyr ar gyfer y Groesgad, ac esgymunwyd ef oherwydd hyn.

Yn 1195 trosglwyddodd Owain reolaeth dros ei deyrnas i'w fab Gwenwynwyn ab Owain ac enciliodd i abaty Ystrad Marchell, lle bu farw a'i gladdu ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Y bardd golygu

Roedd Owain hefyd yn fardd nodedig ac yn enghraifft adnabyddus o fardd-dywysog. Dim ond dwy o'i gerddi sydd wedi goroesi, ond mae un ohonynt, 'Hirlas Owain', yn cael ei hystyried fel un o gerddi Cymraeg gorau y cyfnod. Yn y gerdd, mae gosgordd Owain wedi ymgynnull yn ei lys yn dilyn ymgyrch yn 1155 i ryddhau ei frawd Meurig o garchar ym Maelor. I ddathlu llwyddiant yr ymgyrch, mae Owain yn galw am i'r corn yfed gael ei basio o un i'r llall o'i osgordd, gyda geiriau o glod i bob un. Mae nodyn trist hefyd wrth gofio am ddau o'i wŷr a syrthiodd yn y brwydro. Mae'r ail gerdd yn enghraifft o genre y Gorhoffedd.

Traddodiad golygu

Mae Owain yn ymddangos yn y rhamant Fulk FitzWarin fel marchog sy'n trywanu Fulk a'i waywffon.

Llyfryddiaeth golygu

Hanes golygu

  • John Edward Lloyd, A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co., Llundain, 1911)
  • Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1986)

Barddoniaeth golygu

Ceir golygiad safonol o ddwy gerdd Owain Cyfeiliog a llawer o wybodaeth am gefndir hanesyddol Owain gan Gruffydd Aled Williams yn,

  • Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o feirdd y Ddeuddegfed Ganrif (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1994)



Beirdd y Tywysogion  
Bleddyn Fardd | Cynddelw Brydydd Mawr | Dafydd Benfras | Daniel ap Llosgwrn Mew | Einion ap Gwalchmai | Einion ap Gwgon | Einion ap Madog ap Rhahawd | Einion Wan | Elidir Sais | Goronwy Foel | Gruffudd ab yr Ynad Coch | Gruffudd ap Gwrgenau | Gwalchmai ap Meilyr | Gwernen ap Clyddno | Gwgon Brydydd | Gwilym Rhyfel | Gwynfardd Brycheiniog | Hywel ab Owain Gwynedd | Hywel Foel ap Griffri ap Pwyll Wyddel | Iorwerth Fychan | Llygad Gŵr | Llywarch ap Llywelyn | Llywarch Llaety | Llywarch y Nam | Llywelyn Fardd I | Llywelyn Fardd II | Madog ap Gwallter | Meilyr ap Gwalchmai | Meilyr Brydydd | Owain Cyfeiliog | Peryf ap Cedifor | Y Prydydd Bychan | Phylip Brydydd | Seisyll Bryffwrch