Owain Fychan ap Madog

tywysog Powys

Un o bedwar mab Madog ap Maredudd, tywysog Teyrnas Powys, oedd Owain Fychan ap Madog (bu farw 1187).

Owain Fychan ap Madog
Ganwyd12 g Edit this on Wikidata
Bu farw1187 Edit this on Wikidata
Galwedigaethpendefig Edit this on Wikidata
Swyddtywysog Edit this on Wikidata
TadMadog ap Maredudd Edit this on Wikidata
MamSiwsana ferch Gruffudd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ei frodyr oedd Llywelyn ap Madog (m. 1160), Gruffudd Maelor (m. 1191) ac Owain Brogyntyn. Roedd ganddo ddwy chwaer, sef Efa ferch Madog ac Elise.

Ar farwolaeth Madog ap Maredudd yn 1160, bu ymrafael ac ymgiprys am rym yn nheyrnas Powys a chafodd Owain Fychan gantref Mechain yn dreftadaeth. Nid oes ganddo le amlwg o gwbl yng nghofnodion y cyfnod ac felly mae'n anodd gwybod ei ran yng ngwleidyddiaeth gymhleth Powys ar ôl marwolaeth ei dad, Madog.

Canodd y bardd Llywelyn Fardd I gerdd dadolwch i Owain Fychan. Tybir iddi gael ei chyfansoddi yn fuan ar ôl marwolaeth Madog ap Maredudd.

Cyfeiriadau golygu

  • Catherine McKenna (gol.), 'Gwaith Llywelyn Fardd I', yn Kathleen Anne Bramley et al. (gol.), Gwaith Llywelyn Fardd I ac eraill o feirdd y ddeuddegfed ganrif (Caerdydd, 1994), tt. 45-59.