Owain Tudur Jones

Pêl-droediwr a chyflwynydd teledu o Gymro

Cyn chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Owain Tudur Jones (ganwyd 15 Hydref 1984). Chwaraeodd i Dinas Abertawe, Norwich City, Inverness Caledonian Thistle, Hibernian a Falkirk yn ogystal ag ennill 7 cap dros dîm cenedlaethol Cymru.

Owain Tudur Jones
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnOwain Tudur Jones[1]
Dyddiad geni (1984-10-15) 15 Hydref 1984 (39 oed)
Man geniBangor, Cymru
Taldra1.91m
SafleCanol Cae
Y Clwb
Clwb presennolHibernian
Rhif17
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2000–2001Porthmadog10(0)
2001–2005Dinas Bangor96(24)
2005–2009Dinas Abertawe44(3)
2009Swindon Town (benthyg)11(1)
2009–2011Norwich City5(1)
2010Yeovil Town (benthyg)6(1)
2010Yeovil Town (benthyg)14(1)
2011Brentford (benthyg)6(0)
2011–2013Inverness Caledonian Thistle48(2)
2013–2014Hibernian14(0)
2014-2015Falkirk4(0)
Tîm Cenedlaethol
2005–2006Cymru dan 213(0)
2008–Cymru7(0)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 10:17, 15 Medi 2014 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 16 Tachwedd 2013

Ei daid yw Geraint V. Jones.[2]

Uwch Gynghrair Cymru golygu

Ymunodd Tudur Jones â Dinas Bangor yn Uwch Gynghrair Cymru o glwb Porthmadog yn y Gynghrair Undebol yn 2001 ac yn ei bedwar tymor gyda Bangor chwaraeodd yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn 2002 ac yn Nhlws Intertoto yn 2002 yn erbyn Gloria Bistrita o Romania.

Dinas Abertawe golygu

Wedi cyfnod ar brawf gyda Dinas Abertawe yn ystod haf 2005, ymunodd Jones â'r clwb am £5,000[3]. Yn ystod ei dymor llawn cyntaf fel chwaraewr proffesiynol, gwnaeth 21 o ymddangosiadau a sgoriodd dair gôl. Llwyddodd hefyd i wneud ei ymddangosiad cyntaf i dîm dan-21 Cymru. Ar ôl pedair mlynedd gyda'r Swans, a chyfnod ar fenthyg â Swindon Town yn 2008/09, symudodd Jones i Norwich City am ffi oddeutu £250,000[4].

Norwich City golygu

Gwnaeth Jones ei ymddangosiad cyntaf yn y golled 7-1 yn erbyn Colchester ar ddiwrnod agoriadol tymor 2009/10 a sgoriodd ei gôl gyntaf i'r clwb ar 18 Awst 2009 mewn buddugoliaeth 2-1 dros Brentford[5].

Methodd a sicrhau ei le yn rheolaidd yn nhîm Norwich City ac ar ôl cyfnodau ar fenthyg gyda Yeovil Town a Brentford, symudodd i'r Alban ac Inverness Caledonian Thistle yn 2011[6].

Inverness Caledonian Thistle golygu

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Inverness mewn colled 1-0 yn erbyn Hibs ond yn gynnar wedi'r gêm gyntaf, dioddefodd anaf i'w ben-glîn fyddai'n golygu ei fod angen llawdriniaeth[7]. Collodd chwe mis o'r tymor wrth wella o'i anaf ond sicrhaodd estyniad i'w gytundeb ym mis Mehefin 2012[8].

Hibernian golygu

Ym mis Mai 2013, symudodd i Gaeredin er mwyn ymuno â Hibernian[9] ond ar ôl cael ei ryddhau gan Hibs, ymunodd â Falkirk ym mis Medi 2014.[10]

Ar 6 Mawrth 2015, wedi brwydro yn erbyn anaf arall, cyhoeddodd Jones ei fod yn ymddeol o bêl-droed[11].

Rhyngwladol golygu

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i Gymru mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Lwcsembwrg ym mis Mai 2008[12].

Cyfeiriadau golygu

  1. "Search 1984 to 2006 – Birth, Marriage and Death indexes". Findmypast.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-02. Cyrchwyd 2014-05-22.
  2. Owain Tudur Jones: From football field to battlefield , Daily Post, 7 Mai 2016.
  3. "Tudur Jones given year Swans deal". BBC Sport. 2005-07-30.
  4. "Tudur Jones seals Norwich switch". 2009-06-16. Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Brentford 2 – 1 Norwich". BBC Sport. BBC. 2009-08-18.
  6. "Inverness land Owain Tudur Jones from Norwich". 2011-07-28. Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "Caley Thistle's Owain Tudur Jones faces surgery". BBC Sport. BBC. 2-11-08-17. Check date values in: |date= (help)
  8. "Owain Tudur Jones agrees new Inverness deal". BBC Sport. BBC. 25 June 2012. Cyrchwyd 2012-06-25.
  9. "Wales midfielder joins Hibernian". 2013-05-31. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-12. Cyrchwyd 2014-05-22. Unknown parameter |published= ignored (help)
  10. "Owain Tudur Jones signs for Falkirk". 2014-09-04. Unknown parameter |published= ignored (help)[dolen marw]
  11. "Twitter: Owain T Jones". 2015-03-06. Unknown parameter |published= ignored (help)
  12. "Luxembourg v Wales Welsh Football Online". 2008-03-26. Unknown parameter |published= ignored (help)