Owen Cosby Philipps

perchennog llongau, Aelod Seneddol

Roedd Syr Owen Cosby Philipps, Barwn 1af Kylsant (25 Mawrth 18635 Mehefin 1937) yn ddyn busnes ac yn wleidydd a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Penfro a Hwlffordd ac fel Aelod Seneddol Ceidwadol Dinas Caer, cafodd ei garcharu ym 1931 am droseddau yn ymwneud a thwyll.

Owen Cosby Philipps
Ganwyd25 Mawrth 1863 Edit this on Wikidata
Warminster Edit this on Wikidata
Bu farw5 Mehefin 1937 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd, person busnes Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol, Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata
TadJames Erasmus Philipps Edit this on Wikidata
MamMary Margaret Best Edit this on Wikidata
PriodMai Alice Magdalene Morris Edit this on Wikidata
PlantNesta Donne Philipps, Olwen Gwynne Philipps, Honor Chedworth Philipps Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog-Cadlywydd Urdd Saint Mihangel a Sant Siôr, Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Roedd Owen Philipps yn drydydd o bump o feibion y Parchedig Syr James Erasmus Philipps, 12fed Barwnig, Castell Picton, a'i wraig yr Anrh. Mary, merch Yr Anrh. Parchedig Samuel Best. Fe'i ganed yn ficerdy Warminster, Wiltshire.[1] Roedd teulu Philipps yn un dylanwadol yn ardal Dyfed.

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Newton, Newton Abbot, Dyfnaint a phriododd a Mai Alice Magdalen Morris ar 16 Medi, 1902 a bu iddynt dair merch.

Gyrfa golygu

 
Y Georgic, un o longau'r White Star Line

Ym 1880 aeth yn brentis gyda chwmni llongau Dent & Co Newcastle upon Tyne, wedi cwblhau ei brentisiaeth symudodd i Glasgow ym 1886 i weithio i gwmni llongau Allan & Gow.

Gyda chymorth ariannol gan ei frawd hynaf John Philipps, Is-iarll 1af Tyddewi sefydlodd Philipps ei gwmni llongau ei hun Philipps & Co ym 1888, prynodd ei long gyntaf ym 1889 ac erbyn diwedd y 19g roedd y ddau frawd yn berchen dwy linell llongau - King Line Ltd a'r Scottish Steamship Company, cwmni cyllid the London Maritime Investment Company, a glanfa betrol ar Afon Tafwys - The London and Thames Haven Petroleum Wharf.

Gan fanteisio ar bris isel, prynodd y brodyr gyfranddaliadau yng nghwmni llongau'r Post Brenhinol The Royal Mail Steam Packet Company, erbyn 1902 roedd Owen wedi dod yn gadeirydd a rheolwr gyfarwyddwr y cwmni. Dros yr ugain mlynedd nesaf daethai ef a'r Royal Mail Steam Packet Company yn rheolwyr dros ragor nag ugain o gwmnïau eraill gan gynnwys yr Union-Castle Line a'r Pacific Steam Navigation Company. Ym 1924 daeth Phillips yn gadeirydd Harland and Wolff y cwmni adeiladu Llongau o Belfast. Pinacl eu caffaeliadau oedd dod yn rheolwyr y White Star Line ym 1927.[2]

Gyrfa wleidyddol golygu

Ers ei amser yn yr Alban yr oedd, Philipps wedi dangos diddordeb byw mewn gwleidyddiaeth gan wasanaethu fel ysgrifennydd y Blaid Ryddfrydol yng Nghanol Glasgow. Safodd etholiad am y tro cyntaf ym 1895 fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Bwrdeistref Trefaldwyn gan golli i'r ymgeisydd Ceidwadol. Safodd mewn is etholiad yn Darlington ym 1898, eto, yn aflwyddiannus. Methodd yn ei ymgais i ennill yr enwebiad Rhyddfrydol yn Sir Gaerfyrddin ar gyfer etholiad 1900. Safodd fel ymgeisydd Rhyddfrydol ym Mhenfro a Hwlffordd gan gipio'r sedd oddi wrth y Blaid Geidwadol yn etholiad 1906, gan ddal gafael ar y sedd yn Etholiad cyffredinol Ionawr, 1910.

Penderfynodd beidio sefyll ym Mhenfro a Hwlffordd yn etholiad Rhagfyr 1910 gan obeithio cael ei enwebu ar gyfer etholaeth newydd Caerfyrddin ond daeth yn drydydd yn y gynhadledd enwebu.

Wedi cael ei siomi gan benderfyniad Rhyddfrydwyr Sir Gar i'w anwybyddu am yr ail dro ymunodd a'r Blaid Geidwadol gan gael ei ethol yn ddiwrthwynebiad fel Aelod Seneddol Ceidwadol Dinas Caer mewn isetholiad ym 1916. Cafodd ei ail-ethol yn Etholiad Cyffredinol 1918 gan wasanaethu hyd 1922 pan ymddeolodd o Dŷ'r Cyffredin.

Ym 1923 cafodd ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi fel 'Y Barwn Kylsant o Gaerfyrddin' yn Sir Gaerfyrddin ac o Amroth yn Sir Benfro.[3]

Achos Llys a Charchariad golygu

 
Hysbyseb mordaith gan y RMSPC

Cafodd y mwyafrif o longau Grŵp y Royal Mail eu defnyddio gan y Llynges yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a chollwyd dros gant ohonynt. Ar ôl y Rhyfel ceisiodd Phillips wneud yn iawn am y colledion ar frys a thrwy hynny talodd lawer gormod am ei longau newydd. Roedd llong newydd ym 1919 yn costio dros bedair gwaith yr hyn a gostiai ym 1921. Achosodd hyn drafferthion ariannol i'r cwmni. Oherwydd strwythur grŵp cwmni llongau'r Post Brenhinol a natur unbenaethol Phillips fel rheolwr daeth y trafferthion ddim i'r amlwg yn syth. Roedd llawer o draws berchenogaeth yn bodoli yn y grŵp, gyda chwmnïau'n eiddo ar gyfranddaliadau cwmnïau eraill o fewn y grŵp. Golygai hyn bod arian yn cael ei symud o gwmpas y grŵp mewn modd a oedd yn creu'r cam argraff bod amgylchiadau arianol y grŵp yn llawer iachach nag oeddynt mewn gwirionedd.

Wedi 1926 wynebai'r cwmni anawsterau wrth ad-dalu benthyciadau'r llywodraeth ar y dyddiad dyledus. Ym 1928 gwnaeth y cwmni gais i ymestyn dyled i Fanc y Midland a oedd yn cael ei warantu gan y llywodraeth am gyfnod o bum mlynedd, gwrthodwyd y cais. Roedd llawer o stoc y cwmni yn cael ei gyhoeddi fel dyledeb gyda gwarant o log o 5% pob blwyddyn ar werth y stoc; Arglwydd Tyddewi, brawd Kylystan, oedd yn gwarantu'r taliad yna o 5%. Yn dilyn gwrthod y cais am estyn dyled y Midland gwnaeth Arglwydd Tyddewi gais i drafod sefyllfa'r cwmni gyda'i harchwilwyr, gwrthodwyd y cynnig; er gwaethaf hyn cynigiodd y cwmni dyledebion ychwanegol gwerth £2 miliwn ar warant Tyddewi heb ymgynghori ag ef. Pan ddaeth hyn i sylw'r cyhoedd ym 1929 plymiodd gwerth y cwmni a dechreuwyd amau ei sefydlogrwydd.

Gan boeni am y datblygiadau hyn a gan ofni argyfwng economaidd, penododd y llywodraeth y cyfrifydd William McLintock i ymchwilio i sefyllfa ariannol y grŵp. Roedd ei adroddiad a gyhoeddwyd yn gynnar ym 1930 yn dangos fod gan Grŵp llongau'r Post Frenhinol rhwymedigaethau o dros £10,000,000. Perodd i'r banciau gweithredu gan fynnu bod llawer o bwerau Kylsant yn cael eu trosglwyddo i ymddiriedolwyr a benodwyd gan y banciau. Ym mis Chwefror 1931 aeth Yr Arglwydd a'r Arglwyddes Kylsant ar wyliau i Dde Affrica, yn ei absenoldeb Datgelodd y cyfrifydd McLintock bod y grŵp llongau wedi bod yn talu buddrannau i gyfranddalwyr am flynyddoedd er gwaethaf masnachu ar golled. Doedd McLintock ei hun ddim yn cyfeirio at hyn fel twyll ond dyna'r cyhuddiad a wnaed gan Aelodau Seneddol pan gafodd yr achos ei godi yn Nhŷ'r Cyffredin.

 
Carchar Wormwood Scrubs

Yn fuan wedi iddo ddychwelyd o Dde Affrica cafodd Kylsant ei arestio a'i gyhuddo o wneud datganiadau ffug mewn perthynas â chyfrifon y cwmni ar gyfer 1926 a 1927, yn groes i adran 84 o Ddeddf Ladrata 1861. Cafodd archwilydd y cwmni, Harold John Morland, ei gyhuddo o helpu ac annog yr un troseddau. Cyhuddwyd Kylsant hefyd o fod yn gyfrifol am gyhoeddi dogfen (y prosbectws a gyhoeddwyd ar gyfer y rhifyn 1928 stoc dyledeb) gyda'r bwriad o dwyllo, yn groes i adran 84 o Ddeddf Ladrata 1861. Cynhaliwyd yr achos yn erbyn y ddau yn yr Old Baily ym mis Gorffennaf 1931, a barhaodd am naw niwrnod. Plediodd y ddau yn ddieuog i'r holl gyhuddiadau. Ar ddiwedd yr achos cafwyd y ddau yn ddieuog ar y cyfrif cyntaf ond cafwyd Kylsant yn euog o'r ail gyhuddiad a chafodd ei ddedfrydu i ddeuddeg mis o garchar. Apeliodd yn erbyn y dyfarniad heb lwyddiant a wariodd deg mis o'r dyfarniad yn ei erbyn yng ngharchar Wormwood Scrubs.[4]

Anrhydeddau golygu

Ym 1904, Penodwyd Philipps yn Uchel Siryf Sir Benfro, daeth yn Ddirprwy Raglaw'r Sir Benfro ym 1917, ac yn Arglwydd Raglaw Hwlffordd ym 1924.

Ym 1909 fei Urddwyd yn Farchog Cadlywydd Urdd San Mihangel a San Siôr (KCMG), a'i ddyrchafu i Farchogaeth y Groes Fawr ym 1918

Yn dilyn ei euogfarn bu'n raid iddo ildio eu urddau marchog a'i raglawiaeth, ond cafodd aros yn Arglwydd.

Cyfeiriadau golygu

  1. PHILLIPPS, OWEN COSBY, Barwn Kylsant (1863-1937) yn y Bywgraffiadur ar lein [1] adalwyd 29 Ionawr 2015
  2. The New York Times, 29 November 1926 KYLSANT NOW LEADS IN WORLD SHIPPING trawsysgrifiad ar :- http://www.encyclopedia-titanica.org/forums/white-star-officials-officers-etc/25487-owen-cosby-philipps-lord-kylsant.html Archifwyd 2014-05-04 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 29 Ionawr 2015
  3. LORD KYLSANT DEAD yn The West Australian 7 Mehefin 1937 t 10 [2] adalwyd 28 Ionawr 2015
  4. Am driniaeth lawn gweler: The Royal Mail Case Rex v Lord Kylsant and Another gan Collin Brooks Cyhoeddwyd gan William Hodge & Co. (1933)
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
John Wimburn Laurie
Aelod Seneddol Penfro a Hwlffordd
1906 – Ion 1910
Olynydd:
Christian Henry Charles Guest