Owen Edwards

Darlledwr o Gymro a Prif Weithredwr cyntaf S4C

Darlledwr o Gymro a Phrif Weithredwr cyntaf S4C oedd Owen Edwards (26 Rhagfyr 193331 Awst 2010).[1]

Owen Edwards
Ganwyd26 Rhagfyr 1933 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
Bu farw31 Awst 2010 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethrheolwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
TadIfan ab Owen Edwards Edit this on Wikidata
PlantMari Emlyn Edit this on Wikidata
Am eraill o'r un enw, gweler Owen Edwards (gwahaniaethu)

Ganed ef yn Aberystwyth, yn fab i Syr Ifan ab Owen Edwards ac Eirys Mary Lloyd Edwards (née Phillips). Roedd yn frawd i Prys Edwards. Bu'n cyflwyno'r rhaglen newyddion Heddiw o 1961 hyd 1966. Penodwyd ef yn Reolwr BBC Cymru yn 1974, a dechreuwyd Radio Cymru a Radio Wales yn ystod ei gyfnod fel rheolwr. Bu'n Brif Weithredwr S4C o 1981 hyd 1989.

Roedd yn gyflwynydd ar raglen deledu Gymraeg cynnar Dewch i Mewn yn ystod y 50au.[2] Roedd yn gyflwynydd y rhaglen newyddion Heddiw rhwng 1961 a 1966 a gohebodd am Drychineb Aberfan yn 1966. Fe'i benodwyd yn rheolwr BBC Cymru yn 1974 ac o dan ei arweiniad fe gafodd BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales eu lansio.[3]

Bywyd personol golygu

Priododd Shân Emlyn (1936–1997) yn 1958 a chawsant ddwy ferch - Mari Emlyn ac Elin Edwards.[4] Ysgarodd y ddau yn ddiweddarach a priododd â Rosemary Allen yn 1994. Roedd wedi dioddef o Glefyd Parkinson ers mwy nag 20 mlynedd cyn ei farwolaeth.

Cyfeiriadau golygu