Rhanbarth hanesyddol o Ffrainc, yn cyfateb yn fras i département presennol Dordogne yw'r Périgord (Occitaneg: Peiregòrd)..

Périgord
Mathrhanbarth, ardal hanesyddol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDordogne Edit this on Wikidata
GwladBaner Ffrainc Ffrainc
Uwch y môr130 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau45.18°N 0.72°E Edit this on Wikidata
Map
Afon Dordogne yn Périgord

Rhennir y Périgord yn bedwar rhan, Périgord Noir, Périgord Blanc, Périgord Vert a Périgord Pourpre. Mae'n nodedig am ei golygfeydd, ac yn ddiweddar crewyd Parc Naturel Régional Périgord-Limousin. Mae'n nodedig hefyd am ei fwyd, yn cynnwys foie gras a truffle, ac am ei win, yn cynnwys gwin Bergerac a Monbazillac.

Y brif ddinas yw Périgueux, ac mae afon Dordogne yn llifo trwy'r ardal. Ceir nifer fawr o henebion yma; yr enwocaf efallai yw ogof Lascaux gyda'i arlunwaith byd-enwog, a cheir nifer fawr o gestyll yma, yn cynnwys Losse, Castelnaud, Hautefort a Jumilhac.