Awdur nofelau trosedd Seisnig ac argwlydd am oes y Blaid Geidwadol yn Nhŷ'r Cyffredin oedd Phyllis Dorothy James, Barwnes James o Holland Park, OBE, FRSA, FRSL (3 Awst 192027 Tachwedd 2014), a adnabyddir yn fwy cyffredin fel P. D. James. Mae'n fwyaf adnabyddus am gyfres o nofelau yn dilyn hanes heddwas a bardd Adam Dalgliesh.[1]

P. D. James
FfugenwP. D. James Edit this on Wikidata
LlaisPD James BBC Radio4 Front Row 3 June 2013 b0211jrx.flac Edit this on Wikidata
GanwydPhyllis Dorohy James Edit this on Wikidata
3 Awst 1920 Edit this on Wikidata
Rhydychen Edit this on Wikidata
Bu farw27 Tachwedd 2014 Edit this on Wikidata
Rhydychen Edit this on Wikidata
Man preswylSuffolk, Notting Hill Gate Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Long Road Sixth Form College Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, gwleidydd, nofelydd, awdur ffuglen wyddonol Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Dŷ'r Arglwyddi, Llywodraethwr y BBC, beirniad Gwobr Booker, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol, Cymrawd Cymdeithas Frenhinol Celf (FRSA) Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amCover Her Face Edit this on Wikidata
Arddullnofel drosedd, ffuglen dditectif Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadDorothy L. Sayers, Evelyn Waugh, Margery Allingham, Agatha Christie, Jane Austen, Graham Greene Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadSydney Victor James Edit this on Wikidata
MamDorothy Amelia Hone Edit this on Wikidata
PriodConnor Bantry White Edit this on Wikidata
PlantClare Bantry White, Jane Bantry White Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Gwobr Anrhydeddus Rhyngwladol Riverton, Nick Clarke Award, The Grand Master, Cyllell Ddiamwnt Cartier, Gwobr Anthony, Grand Prix de Littérature Policière, Medal Bodley Edit this on Wikidata

Bywyd a gyrfa golygu

Ganed James yn Rhydychen yn ferch i Sidney James, arolygwr treth, ac addysgwyd yn Ysgol Brydeinig Ludlow a Ysgol Uwchradd i Ferched Caergrawnt.[2] Dechreuodd ysgrifennu yn yr 1950au.[3] Enwyd ei nofel gyntaf, Cover Her Face, yn dilyn hanes Adam Dalgliesh o New Scotland Yard, ar ôl athro yn Ysgol Uwchradd Caergrawnt, a cyhoeddwyd ym 1962.[4] Gosodir nifer o nofelau dirgelwch James ar gefndir biwrocraeth Brydeinig, megis y system gyfiawnder troseddol a'r system iechyd, meysydd yr oedd James wedi gweithio ynddynt ers degawdau, gan gychwyn yn yr 1940au pan aeth i weithio mewn gweinyddiaeth ysbytu er mwyn cefnogi ei gŵr, a oedd yn wael, a'u dau plentyn. Dyflwydd wedi cyhoeddiad Cover Her Face, bu farw gŵr James, a cymerodd swydd fel gwas sifil yn adram cyfiawnder troseddol y Swyddfa Gartref. Gweithiodd James yn gwasanaethu'r llywodraeth hyd ei ymddeoliad ym 1979. Mae'n Anglican ac yn Noddwr Lleyg y Cymdeithas Llyfr Gweddi. Mae ei gwaith o 2001, Death in Holy Orders, yn arddangos dealltwriaeth o strwythr a gweithrediad mewnol yr eglwys.[5] Lleolwyd ei nofelau diweddarach mewn rhyw fath o gymdeithasau caedig o ryw fath, megis tŷ cyhoeddi neu siambr bargyfreithiwr, colege ddiwynyddol, ynys neu glinic preifat. Cyhoeddwyd nofel Adam Dalgliesh, The Private Patient, ym mis Awst 2008 yn y Deyrnas Unedig gan Faber & Faber (Tachwedd 2008 yn yr Unol Daleithiau gan Alfred A. Knopf) a cyhoeddwyd Talking About Detective Fiction yn 2009. Mae hefyd wedi ysgrifennu nifer o draethodau a straeon byrion ar gyfer papurau newydd, cylchgronnau ac antholegau yn ystod ei gyrfa. Nid yw rhain wedi eu cyhoeddi mewn casgliad hyd yn hyn.

Fel golygydd gwestai rhaglen Today BBC Radio 4 ym mis Rhagfyr 2009, cyfwelodd James Gyfarwyddwr-cyffredin y BBC, Mark Thompson, a rhoddodd yr argraff ei bod yn feirniadol o'i benderfyniadau. Dywedodd cyflwynydd Today, Evan Davis a oedd wedi cael ei argraffu gan James, y dylai fod yn cyflwyno'r rhaglen yn barhaol nid fel gwestai.[6] Yn 2008, sefydlwyd i Neuadd Enwogion Ysgrifennu Trosedd Rhyngwladol yng Ngwobrau cyntaf Trosedd Cyffrous ITV3.[7]

Ffilm a theledu golygu

Addaswyd nifer o nofelau dirgelwch James ar gyfer y teledu gan Anglia Television ar gyfer ITV yn ystod yr 1980au. Darlledwyd y cynyrchiadau dramor hefyd, gan gynnwys yn yr Unol Daleithiau ar sianel PBS. Chwaraeodd Roy Marsden ran Adam Dalgliesh yn y cynyrchiadau rhain. Ers hynnu, mae'r BBC hefyd wedi addasu Death in Holy Orders (2003) a The Murder Room (2004) fel dramau unigol, gyda Martin Shaw yn chwarae rhan Dalgliesh.

Ei nofel 1992 The Children of Men oedd sail ffilm 2006 Children of Men, a gyfarwyddwyd gan Alfonso Cuarón a serennodd Clive Owen, Julianne Moore a Michael Caine.[8] Er y bu cryn newidiadau i'r stori o'r llyfr, adroddwyd y bu James yn bles iawn gyda'r addasiad ac yn falch o fod yn gyllystiedig â'r ffilm.[9]

Llyfrau golygu

Nofelau golygu

Dirgelychau Adam Dalgliesh

  1. Cover Her Face (1962)
  2. A Mind to Murder (1963)
  3. Unnatural Causes (1967)
  4. Shroud for a Nightingale (1971)
  5. The Black Tower (1975)
  6. Death of an Expert Witness (1977)
  7. A Taste for Death (1986)
  8. Devices and Desires (1989)
  9. Original Sin (1994)
  10. A Certain Justice (1997)
  11. Death in Holy Orders (2001)
  12. The Murder Room (2003)
  13. The Lighthouse (2005)
  14. The Private Patient (2008)

Cordelia Gray mysteries

Miscellaneous novels

Argraffiadau omnibws

  • Crimes Time Three (1979), ailargraffwyd yn ddiweddarach fel Three Complete Novels (1988): Cover Her Face, A Mind to Murder, a Shroud for a Nightingale
  • Murder in Triplicate (1980), Unnatural Causes, An Unsuitable Job for a Woman, a The Black Tower
  • Trilogy of Death (1984): Innocent Blood, An Unsuitable Job for a Woman, a The Skull Beneath the Skin
  • A Dalgliesh Trilogy (1989): Shroud for a Nightingale, The Black Tower, a Death of an Expert Witness
  • A Second Dalgliesh Trilogy (1993): A Mind to Murder, A Taste for Death, a Devices and Desires
  • An Adam Dalgliesh Omnibus (2008): A Taste for Death, Devices and Desires, a Original Sin

Ffeithiol golygu

Addasiadau teledu a ffilm golygu

Detholiad o wobrau ac anrhydeddau golygu

Anrhydeddau golygu

Doethuriaethau anrhydedd

Cymrodoriaethau anrhydedd

[10]

Gwobrau golygu

  • 1971 Gwobr y Nofel Orau, Mystery Writers of America (runner-up): Shroud for a Nightingale
  • 1971 Crime Writers' Association (CWA) Macallan Silver Dagger for Fiction: Shroud for a Nightingale
  • 1973 Gwobr y Nofel Orau, Mystery Writers of America (runner-up): An Unsuitable Job for a Woman
  • 1975 CWA Macallan Silver Dagger for Fiction: The Black Tower
  • 1986 CWA Macallan Silver Dagger for Fiction: A Taste for Death
  • 1986 Gwobr y Nofel Orau, Mystery Writers of America (runner-up): A Taste for Death
  • 1987 CWA Cartier Diamond Dagger (gwobr cyflawniad oes)
  • 1992 Gwobr Deo Gloria: The Children of Men
  • 1999 Gwobr Grandmaster, Mystery Writers of America
  • 2002 Gwobr Lenyddol WH Smith (rhestr fer): Death in Holy Orders
  • 2005 Gwobrau Llyfrau Prydeinig, Crime Llyfr Drosedd Cyffrous y Flwyddyn (rhestr fer): The Murder Room
  • 2007 Gwobr Nofel Drosedd y Flwyddyn Theakston's Old Peculier (rhestr hir): The Lighthouse
  • 2010 Gwobr Nick Clarke am gyfweliad gyda Chyfarwyddwr-cyffredinol y BBC, Mark Thompson, pan oedd yn olygydd gwestaiu ar raglen Today (BBC Radio 4)[11]

Llyfryddiaeth golygu

  • Richard B Gidez. P. D. James. Twayne’s English Authors Series, New York: Twayne, 1986.
  • Norma Siebenheller. P. D. James. New York: Ungar, 1981.

Cyfeiriadau golygu

  1. UK Parliament – Alphabetical List of Members Archifwyd 2008-12-12 yn y Peiriant Wayback..
  2. . Faber.co.uk. 2008-09-22 http://www.faber.co.uk/author/p-d-james/. Cyrchwyd 2010-05-20. Unknown parameter |teitl= ignored (help); Missing or empty |title= (help)
  3. The Guardian Paperback Writer Column – Why Detection? by P.D. James
  4. "The Salon Interview – P.D. James – The Art of Murder". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2000-08-24. Cyrchwyd 2011-06-16.
  5. "Why I am still an Anglican", Continuum, 2006, page 16
  6. Guardian review, 31 Dec 2009
  7.  Katie Allen (2008-10-06). Rankin and P D James pick up ITV3 awards. theBookseller.com.
  8. 8.0 8.1 Children of Men at IMDB
  9.  P. D. James Pleased With Film Version of Children of Men. internetwritingjournal.com (2007-01-08).
  10. British Council contemporary writers
  11.  PD James wins BBC's Nick Clarke Award for journalism. New Statesman (2010-10-12).

Dolenni allanol golygu

 
Wikiquote
Mae gan Wiciddyfynu gasgliad o ddyfyniadau sy'n berthnasol i: