Pab yr Eglwys Gatholig Rufeinig a rheolwr Taleithiau'r Babaeth o 23 Tachwedd 1700 hyd ei farwolaeth oedd Clement XI (ganwyd Giovanni Francesco Albani) (23 Gorffennaf 164919 Mawrth 1721).

Pab Clement XI
GanwydGiovanni Francesco Albani Edit this on Wikidata
23 Gorffennaf 1649, 22 Gorffennaf 1649 Edit this on Wikidata
Pesaro, Urbino Edit this on Wikidata
Bu farw19 Mawrth 1721 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTaleithiau'r Babaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Y Brifysgol Archoffeiriadol Gregoraidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Catholig, pab Edit this on Wikidata
Swyddpab, cardinal Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd yn noddwr i'r celfyddydau a'r gwyddorau, yn ogystal â bod yn gymwynaswr pwysig i Lyfrgell y Fatican. Awdurdododd alldeithiau a lwyddodd i ailddarganfod amryw o ysgrifau Cristnogol hynafol. Cymerodd ddiddordeb mawr mewn archeoleg, a chredir iddo ddiogelu llawer o weddillion Rhufain hynafol.

Rhagflaenydd:
Innocentius XII
Pab
23 Tachwedd 170019 Mawrth 1721
Olynydd:
Innocentius XIII
Eginyn erthygl sydd uchod am bab. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.