Pab yr Eglwys Gatholig Rufeinig a rheolwr Taleithiau'r Babaeth o 1 Tachwedd 1503 hyd ei farwolaeth oedd Iŵl II (ganwyd Giuliano della Rovere) (5 Rhagfyr 144321 Chwefror 1513).

Pab Iŵl II
GanwydGiuliano della Rovere Edit this on Wikidata
5 Rhagfyr 1443 Edit this on Wikidata
Albisola Superiore Edit this on Wikidata
Bu farw21 Chwefror 1513 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Genova Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Perugia Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Catholig Edit this on Wikidata
Swyddpab, Cardinal-esgob Ostia, camerlengo, cardinal-nai, Esgob Carpentras, Esgob Avignon, Esgob Lausanne, Esgob Viviers, Esgob Mende, esgob Bologna, Esgob Coutances, Esgob Catania, Archesgob Avignon, gweinyddwr apostolaidd, cardinal-offeiriad, gweinyddwr apostolaidd, abad, Archpriest of the Saint John Lateran Basilica, Cardinal Bishop of Sabina (Vescovio), esgob Savona, gweinyddwr apostolaidd, Abad Montserrat, Cardinal-Bishop of Velletri-Segni, cardinal-offeiriad, Major Penitentiary Edit this on Wikidata
TadRaffaello della Rovere Edit this on Wikidata
MamTeodora Marinola Edit this on Wikidata
PlantFelice della Rovere Edit this on Wikidata
PerthnasauPab Sixtus IV, Pietro Riario, Girolamo Riario, Girolamo Basso della Rovere, Giovanna Felicita Feltria della Rovere, Francesco Maria I della Rovere, Dug Urbino Edit this on Wikidata
Llinachdella Rovere Edit this on Wikidata

Un o'r pabau mwyaf pwerus a dylanwadol o unrhyw gyfnod oedd Iŵl, ac roedd yn ffigwr canolog yn y Dadeni Dysg. Gadawodd etifeddiaeth ddiwylliannol a gwleidyddol bwysig.

Yn 1506 dechreuodd adeiladu Basilica Sant Pedr gyda'r bwriad o adeiladu'r eglwys fwyaf a mwyaf godidog yn y byd. Sefydlodd hefyd amgueddfeydd helaeth iawn y Fatican. Yn yr un flwyddyn creodd y Gwarchodlu Swisaidd er mwyn ei amddiffyniad personol. Yn 1508 comisiynodd ffresgoau ar gyfer y Fatican o Raffael ac ar gyfer nenfwd a wal ddwyreiniol y Cappella Sistina o Michelangelo.

O ganlyniad i'w bolisïau yn ystod Rhyfeloedd yr Eidal, arhosodd Taleithiau'r Babaeth yn annibynnol ac o dan reolaeth ganolog, a pharhaodd swyddfa'r babaeth i ddal dylanwad gwleidyddol ledled yr Eidal ac Ewrop.

Rhagflaenydd:
Pïws III
Pab
1 Tachwedd 150321 Chwefror 1513
Olynydd:
Leo X
Eginyn erthygl sydd uchod am bab. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.