Pab yr Eglwys Gatholig Rufeinig a rheolwr Taleithiau'r Babaeth o 31 Mawrth 1829 hyd ei farwolaeth y flwyddyn ganlynol oedd Pïws VIII (ganwyd Francesco Saverio Castiglioni) (20 Tachwedd 176130 Tachwedd 1830). Ei deyrnasiad fel pab oedd y byrraf o'r 19g.

Pab Pïws VIII
GanwydFrancesco Saverio Castiglioni Edit this on Wikidata
20 Tachwedd 1761 Edit this on Wikidata
Cingoli Edit this on Wikidata
Bu farw30 Tachwedd 1830 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTaleithiau'r Babaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol La Sapienza Edit this on Wikidata
Galwedigaethoffeiriad Catholig, esgob Catholig Edit this on Wikidata
Swyddpab, cardinal, esgob esgobaethol, esgob esgobaethol Edit this on Wikidata
llofnod

Cafodd Castiglioni ei eni yn Cingoli, Marche, yr Eidal, yn fab i'r Cownt Ottavio Castiglioni a'i wraig Sanzia Ghislieri. Cafodd ei addysg yn y Collegio Campana a Phrifysgol Bologna.[1]

Daeth yn Esgob Montalto yn 1800. Etholwyd ef yn bab yn 1829. Aeth yn sâl iawn ym mis Tachwedd 1830, a bu sibrydion iddo gael ei wenwyno. Bu farw ar 30 Tachwedd ym Mhalas y Quirinale yn Rhufain, yn 69 oed.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. "CASTIGLIONI, Francesco Saverio (1761–1830)" (yn Saesneg). The Cardinals of the Holy Roman Church. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-09. Cyrchwyd 11 Chwefror 2014.
  2. "Sede Vacante 1830–1831" (yn Saesneg). 15 Awst 2015. Cyrchwyd 20 Ionawr 2019.
Rhagflaenydd:
Leo XII
Pab
31 Mawrth 182930 Tachwedd 1830
Olynydd:
Grigor XVI
  Eginyn erthygl sydd uchod am bab. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.