Palesteina dan Fandad

cyn wladfa Brydeinig Palesteina/Israel 1920 -1948
(Ailgyfeiriad o Palesteina (Mandad))

'Mandad Palestina, (Arabeg: فلسطين{transl|ar|Filasṭīn}}; {{lang-he-n|פָּלֶשְׂתִּינָה() }) yw enw llywodraethau Palestina a Jordaniaid Ymerodraeth Otomanaidd rhwng Rhyfel Byd Cyntaf a 1948 (Palestina) a 1946 (Trawsiorddonen a ailenwyd yn ddiweddarach yn Gwlad Iorddonen) Prydeinig Mandad i Balestina]].

Palesteina a Trawsiorddonen (dan wahanol drefniadau cyfreithiol a gweinyddol) fel rhan o fandad Palesteina a gyhoeddwyd gan Cynghrair y Cenhedloedd i'r Deyrnas Unedig ar 29 Medi 1923
Palesteina a Trawsiorddonen (dan wahanol drefniadau cyfreithiol a gweinyddol) fel rhan o fandad Palesteina a gyhoeddwyd gan Cynghrair y Cenhedloedd i'r Deyrnas Unedig ar 29 Medi 1923

Cyd-destun golygu

 
Baner Palesteina Mandad ar gyfer cofrestru llongau, 1927-1948

Yn dilyn cytundeb dirgel Sykes-Picot rhwng Prydain a Ffrainc yn 1915 cytunwyd y byddai'r ddau ymerodraeth yn rhannu'r Dwyrain Canol yn dilyn ennill y Rhyfel Mawr. Roedd y ddwy wlad i gael rheolaeth lawn neu tra-arglwyddiaeth dros y tiroedd Arabaidd i'r de o Anatolia yn dilyn cwymp disgwyladwy Ymerodraeth yr Otomaniaid.

Yn ogystal â chytundeb ddirgel Sykes-Picot yn 1916 fe addawodd Lywodraeth Prydain y byddai'n sefydlu 'Mamwlad Iddewig' ym Mhalesteina — yr hyn a elwir yn 'Datganiad Balfour'. Doedd yr union dirogaeth heb ei gadarnhau na chwaith beth oedd wir ystyr y gair mamwlad gan fod y Datganiad hefyd yn addo cydnabod hawliau pobl Arabaidd frodorol y rhanbarth.

Gyda cwymp y Grymoedd Canolig (Ymerodraethau Yr Almaen, Awstria-Hwngari, Twrci Otomanaidd a Bwlgaria) trosglwyddwyd rheolaeth dros y tir a ddaeth yn Balesteina i Brydain — er fod y rhan fwayf o'r tir ar y pryd yn rhan o dalaith "Vilayet" "Syria".

Tiriogaeth golygu

 
Stamp Mandad tairieithog, Saesneg, Arabeg, Hebraeg

Gyda Chynhadledd San Remo yn 1920 cytunodd y cynghreiriaid (heb ystyried barn y trigolion lleol mewn unrhyw sylwedd) i drosglwyddwyd y tiriogaeth yn ffurfiol i Brydain. Roedd "Palesteina" yn wreiddiol i gynnwys y cyfan o Balesteina ac Israel gyfoes a Gwlad yr Iorddonen. Roedd y ffin dde-orllewinnol yn dilyn y ffin rhwng yr Aifft (oedd eisoes o dan ddylanwad Prydain) a hen Ymerodraeth yr Otomaniaid, ac, felly, ddim yn cynnwys penrhyn Sinai.

Roedd rheolaeth y tiriogaeth i fod yn wahanol i wladychu ymerodraethol lawn gan ei fod i'w reoli o dan "mandad" gan Gynghrair y Cenhedloedd ar y dealltwriaeth y byddai Prydain (yn nawddoglyd) yn adeiladu'r wlad a pharatoi'r brodorion ar gyfer hunanlywodraeth lawn yn y dyfodol, "until such time as they are able to stand alone".[1]

Yn 1922 rhannwyd y diriogaeth yn ddwy wladfa, Palesteina a Thrawsiorddonen (Gwlad yr Iorddonen gyfoes). Tra bod Palesteina'n cael ei reoli'n uniongyrchol gan Brydain tan 1948, roedd Trawsiorddonen yn diriogaeth lled-annibynnol o dan reolaeth teulu brenhinol yr Hashimiaid oedd, yn wreiddiol o'r Hijaz, ac a ddaeth yn annibynnol yn 1946.

Demograffeg golygu

 
Memorandwm Mandad a gyflwynwyd i Senedd Prydain, Rhagfyr 1922

Roedd y tiriogaeth wedi gweld ymdufo bwriadol a chyson gan Iddewon fel rhan o'r aliya i'w wlad a thrwy mudiadau Seionistaidd fel Chofefei Tzion. Erbyn i Brydain gymryd rheolaeth o'r tiriogaeth roedd yr "Yishuv" (gymuned Iddewig) wedi dechrau adeiladu ei system addysg, iechyd, amddiffyn a thirfeddiannu ei hun, yn ogystal ag adfer yr iaith Hebraeg o dan arweiniad ac ysbrydoliaeth pobl fel Eliezer Ben-Yehuda.

Roedd y boblogaidd Arabaidd yn dal i fod mewn mwyafrif clir dros yr Iddewon drwy gydol cyfnod y Mandad. Roedd y boblogaeth honno wedi gweld tŵ mewn niferoedd, yn rannol oherwydd bod llewyrch a gwaithgynhyrchu Iddewig a mudo i Balesteina oherwydd cynyddu cylfeoedd gwaith i'r Arabiaid.[2]

Cafodd yr ardal ei farcio gan fewnfudo mawr gan Iddewon Ewropeaidd ar ôl i'r Brydeinig ymgymryd â'r mandad yn 1920. Arweiniodd hyn at gynnydd yn lefel y gwrthdaro ac yn y pen draw, mwy o wrthryfel a gwrthdaro treisgar rhwng Iddewon a Arabaidd. Yn 1947, torrodd rhyfel cartref rhwng y partïon.

Poblogaeth 1850—1915 (dan rheolaeth Otomanaidd) golygu

Yn seiliedig ar niferoedd y hanesydd Justin McCarthy (Poblogaeth Palesteina, Hanes y Boblogaeth ac Ystadegau'r Cyfnod Ottomaniaid Hwyr a'r Mandad; Gwasg Prifysgol Columbia; ISBN 0-231-07110-8)

Blwyddyn Cyfanswm Arabiaid Mwslim Iddewon Arabiaid Cristnogol
1850 340 000 300 000 (88,2 %) 13 000 (3,8 %) 27 000 (7,9 %)
1880 456 929 399 334 (87,4 %) 14 731 (3,2 %) 42 864 (9,4 %)
1900 586 581 499 110 (85,1 %) 23 662 (4 %) 63 809 (10,9 %)
1915 722 143 602 377 (83,4 %) 38 754 (5,4 %) 81 012 (11,2 %)

Poblogaeth 1922—1945 (dan reolaeth Prydain) golygu

Blwyddyn Cyfanswm Arabiaid Mwslim Iddewon Arabiaid Cristnogol Eraill
1922 752 048 589 177 (78%) 83 790 (11%) 71 464 (10%) 7 617 (1%)
1931 1 036 339 761 922 (74%) 175 138 (17%) 89 134 (9%) 10 145 (1%)
1945 1 764 520 1 061 270 (60%) 553 600 (31%) 135 550 (8%) 14 100 (1%)

Uwch Gomisiynwyr Prydain dros Palesteina Mandad golygu

  • 1920—1925: Herbert Louis Samuel
  • 1925—1928: Herbert Plumer
  • 1928—1931: John Robert Chancellor
  • 1945—1948: Alan G. Cunningham

Nodweddion golygu

Nodweddwyd y cyfnod gan dwf yn nhrefniadaeth a hunan-hyder y Yishwf gan gynnwys sefydlu Prifysgol Hebraeg yn 1925; corff Undebol genedlaethol, llu amddiffyn yr Haganah ac yn 1924 gwnaed Hebraeg yn un o ieithoedd swyddogol y Mandad (ynghyd ag Arabeg a'r Saesneg).

Nodweddion eraill y cyfnod oedd tŵf mewn gwrthdarro rhwng yr Arabiaid a'r Iddewon. Cafwyd terfysgoedd gwrth-Iddewig trwy gydol y cyfnod ond bu Gwrthryfel Arabaidd fawr yn 1936. Erbyn iddo ddod i ben ym mis Mawrth 1939, roedd mwy na 5,000 o Arabiaid, 400 o Iddewon, a 200 o Brydeinwyr wedi eu lladd ac o leiaf 15,000 o Arabiaid wedi eu hanafu.[3]

Nodweddwyd yr 1930au gan lif o ddegau filoedd o Iddewon Almaenig yn ffoi rhag erledigaeth Natsiaeth.

Tîm Pêl-droed Palesteina'r Mandad golygu

Yn 1929 cydnabwyd Tîm pêl-droed cenedlaethol Palesteina'r Mandad gan FIFA a bu i'r tîm chwarae 5 gêm ryngwladol yn ystod yr 1930au a 1940au yn erbyn Libanus, yr Aifft a gêm gyfeillgar yn erbyn Groeg. Roedd y tîm yn cael ei hystyried gan yr Iddewon a'r Arabiaid, ill dau, fel tîm i'r Iddewon i bob pwrpas.

Diwedd y Mandad golygu

Roedd Prydain wedi cydnabod annibyniaeth Trawsiorddonen yn 1946 a nodwyd y bwriad i ddod â'r Mandad dros Balesteina i ben erbyn Awst 1948.

Daeth Mandad Prydain dros Balesteina i ben ar 15 Mai 1948 pan datganodd David Ben-Gurion arweinddy yr Iddewon, annibyniaeth i'w gwlad newydd, Israel.[4] Yn dilyn y cyhoeddiad yma bu Rhyfel agored rhwng yr Arabiaid a'r Iddewon (oedd yn barhâd o derfysgaeth ar y naill ochr a'r llall oedd wedi bodoli ers blynyddoedd).

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu