Palmach

uned cyrch yr Haganah Iddewig yn Palesteina

Y Palmach (Hebraeg: פלמ"ח acronym ar gyfer Plugot Maḥatz - yn llythrennol, "milwyr sioc". Sillefir weithiau fel Palmah hefyd) oedd yr enw Iddewig ar un o gyrff parafilwrol Seionaidd y gymuned Iddewig, yr Yishuv bu'n ymladd ac amddiffyn Iddewon yn erbyn Arabiaid, pwerau'r Echel (Axis) yn yr Ail Ryfel Byd ac yna yn erbyn llywodraethiant Brydeinig wedi'r Rhyfel. Roedd yn rhan o lu fwy, confensiynol yr Yishuv, fel yr Haganah. Daeth i ben wedi sefydlu Gwladwriaeth Israel, pan gwneaethpwyd yn rhan o luoedd swyddogol y wlad newydd.[1]

Arfbaid y Palmach ar gofeb Brigâ Harel, 2014

Hanes golygu

 
Menywod y Palmach, Ein Gedi, 1942

Sefydlwyd y Palmach ar 15 Mai 1941 ar adeg o'r Ail Ryfel Byd pan oedd yn edrych fel y gallai lluoedd y Natsïaid o dan arweiniad Erwin Rommel, dorri o Ogledd Affrica ac ym ymosod ar Balesteina. Sefydlydd y Palmach oedd Yitzhak Sadeh a gydweithiodd gyda staff y fyddin Brydeinig i greu cyrchlu byddai'n cynnwys Iddewon oedd wedi eu ymrestru yn y Fyddin Brydeinig er mwyn ymladd yn erbyn y Natsiaid. Roedd yr Uned yn un wedi ei hyfforddi gan y Prydeinwyr ac yn cael ei hyfforddi mewn rhyfelgrefft sylfaenol fel Mae'r uned yn arfog ac yn cael ei hyfforddi gan y Prydeinig, sy'n addysgu'r pethau sylfaenol a sabotage. Roedd y Palmach yn cynnwys:

  • naw sgwadron y mae eu hyfforddiant yn cynnwys, ymysg pethau eraill, patrolau, hyfforddiant corfforol ac astudiaeth maes;
  • sgwadron, y Palyam, wedi'i hyfforddi mewn gweithrediadau ar y môr;
  • uned comando, a fedyddiwyr yn "Peter Haas", oedd yn cynnwys gwirfoddolwyr Iddewig o'r Almaen a baratowyd ar gyfer ymsefydlu tu ôl i linellau gelyn;
  • uned barasiwt o'r enw "Balkan"

Cynhaliwyd camau cyntaf Palmch yn 1941 gan 23 o recriwtiaid a arweiniad swyddog Brydeinig. Pwrpas y cyrch oedd er mwyn sabotage ffatri arfau yn Syria, oedd o dan gyfrifoldeb Llywodraeth Vichy Ffrainc oedd yn gefnogol i'r Natsiaid. Collwyd yr uned gyfan a does dim olion ohono hyd heddiw.

Wedi'r Rhyfel golygu

 
Yr Ha-Machlaka Ha-Germanit: y "Platŵn Almaenig" (h.y. Comando Dwyrain Canol) a weithrdodd cyrchoedd cudd a sabotage yn erbyn targedau Natsiaid yn y Dwyrain Canol a'r Balcanau

Gyda diwedd yr Ail Ryfel Byd, chwaraeodd y Palmach rôl hanfodol yn y frwydr Seionistaidd yn erbyn Llywodraeth y Mandad Prydeinig ym Mhalesteina. Roedd y Palmach nawr yn ymladd yn erbyn yr union bobl roeddynt wedi ei gefnogi cwta flwyddyn neu ddwy yn gynt.

Am gyfnod, unodd y Palmach â sefydliadau parafilwrol Seionyddol eraill i ffurfio 'Mudiad Gwrthryfel Hebraeg'. Dyna pryd trefnodd y Palmach rhyddhad gwersyll ffoaduriaid Atlit. Defnyddiwyd y tactegau sabotage i ddymchwul pontydd, gorsafoedd radar, cerbydau heddlu, cychod patrôl a'r llongau Llynges Frenhinol Brydeinig, oedd yn ceisio rhwystro mewnfudwyr a ffoaduriaid Iddewig rhag cyrraedd Palesteina. Cymerodd y Palmach rhan weithgar yn Aliyah Bet (mewnfudo anghyfreithlon gan Iddewon) a glanio cychod anghyfreithlon ar lannau Palesteina.

O fewn yr uned, tyfodd ymdeimladau cryf o frawdoliaeth rhwng yr aelodau cyffredin a'u swyddogion. Yn ogystal â'u paratoadau milwrol, bu aelodau'r Palmah hefyd yn hyfforddi ar gyfer trin y tir er mwyn paratoi ar gyfer gwladychu'r dyfodol. Ar ddiwedd 1944, sefydlodd y kibbutz Beit-Keshet ganddynt.

Cyrch olaf y Palmach fel uned annibynnol oedd yn erbyn llu filwrol answyddogol asgell dde Iddewig, yr Irgun fel rhan o Ddigwyddiad yr Altalena. Ar 22 Mehefin 1948 glaniodd yr Irgun long yr Altalena, oedd wedi ei llwytho ag arfau, oddi ar arfordir Tel Aviv. Gorchmynodd David Ben-Gurion, Prif Weinidog Israel newydd i'r Palmach rwystro'r arfau rhag cael eu glanio ar y tir. Mewn cyrch a arweiniwyd gan Yigal Allon, gydag Yitzhak Rabin fel ei ddirprwy, defnyddiwyd canon i suddo'r llong. Lladdwyd un aelod o'r Palmach ac un deg pendwar aelod o'r Irgun.[2][3]

Annibyniaeth golygu

Yn y cyfnod rhwng 29 Tachwedd 1947, pan benderfynodd y Cenhedloedd Unedig i greu gwladwriaeth Iddewig, a 14 Mai 1948, Diwrnod Datganiad Annibyniaeth Israel, prif weithgaredd y Palmach oedd trfnu cyrchoedd i ennill a chadw rheolaeth o'r ffyrdd er mwyn diogelu trafnidiaeth nwyddau, arfau a phobl Iddewig rhag ymosodiadau gan Arabiaid. Gyda genedigaeth Llu Amddiffyn Israel (yr IDF), amlyncwyd y Palmach a'r 'fyddin' answyddogol Iddewig, yr Haganah i fyddin swyddogol i wladwriaeth newydd. Daeth y mwyafrif o swyddogion unedau arbennig yr IDF mewn gwirionedd o unedau o'r Palmach.

Erbyn dechrau Rhyfel Annibynaieth Israel go iawn yn 1947 roedd gan y Palmach dros 2,000 o ddynion a menywod mewn 3 brigâd ymladd ac unedau atodol awyr, morol a chudd-wybodaeth. Collodd y Palmach gyfanswm o 1,187 o ymladdwyd yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Israel yn y blynyddoedd cyn sefydlu'r wlad.[4] Bu farw nhw mewn cyrchoedd yn arwain at annibyiaeth ac yna lladdwy 574 yn rhan o fyddin Israel: 524 a laddwyd wrth ymladd brwydr neu gyrch; 77 fel rhan o amddiffyn neu mudo confois bwyd, arfau a phobl.

Ar 7 Tachwedd 1948 penderfynodd llywodraeth Israel datgymalwyd system staff y Palmach, gan ddadlau na allai gwlad gael mwy nag un llu arfog ac mae'r llu arfog swyddogol, a'r unig lu yn Israel bellach, fyddai'r IDF.

Pobl enwog bu'n gwasanaethu yn Palmach golygu

Arthur Goldreich (en)
Yitzhak Rabin

Uchel Swyddi golygu

Yitzhak Sadeh - Prif Gomander Cyffredinol Palmach
Yigal Allon - Ail Gyfarwyddwr Cyffredinol Palmach (1945-1948)

Pennaeth yr Unedau Arbennig golygu

Yigal Allon - Comander Adran Syria

Swyddogion Cwmnïau (1943-) golygu

Yigal Allon, Comander Aleph Pluga
Moshe Dayan, Pennaeth Beth Pluga
Rafael Eitan - 4ydd Bataliwn Cwmni A. (1948)

Cyswllt Cymreig golygu

Roedd yr awdur Iddewig, Judith Maro yn aelod o'r Palmach yn ei hieuenctid. Priododd Yehudit 'Ida' Grossman, fel oedd ar y pryd, â'r milwr Brydeinig, Jonah Jones gan symud i fyw i Gymru. Ysgrifennodd lyfr Atgofion Haganah am ei chyfnod fel aelod o luoedd arfog yr Yishuv.

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Peri, Yoman (1983). Between battles and ballots – Israeli military in politics. CUP. ISBN 0-521-24414-5.
  2. "פלמ"ח". www.palmach.org.il. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-01. Cyrchwyd 2018-11-11.
  3. Silver, pp. 107, 108.
  4. "פלמ"ח". Palmach.org.il. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-01. Cyrchwyd 2011-12-17.