Mudiad sy'n anelu at undod gwleidyddol, diwylliannol a chrefyddol yr holl bobloedd Slafonaidd yw Pan-Slafiaeth. Fe ddatblygodd ym mlynyddoedd cynnar yr 19g fel ffurf o genedlaetholdeb ramantaidd. Cynhaliwyd y Gyngres Ban-Slafaidd Gyntaf ym Mhrag yn awyrgylch chwyldroadol mis Mehefin 1848.

Enghreifftiau o Ban-Slafiaeth golygu

 
Baner Serbia - baner gyda'r lliwiau Pan-Slafaeg: coch, gwyn a glas

Ceir sawl enghraifft o Ban-Slafiaeth gwleidyddol, ieithyddol a diwylliannol. Yn eu mysg mae:

  • Sokol - mudiad chwaraeon a sefydlwyd ym Mhrâg yn 1862 ac sydd wedi ymledu i gynnwys y rhan fwyaf o'r cenhedloedd Slafeg.
  • Rhyngslafeg - iaith artiffisial neu rhyngiaith sy'n defnyddio'r ffurfiau sydd fwyaf cyffredin yn y gwahanol ieithoedd Slafaidd i greu tafodiaith neu koine newydd i siaradwyr gwahanol ieithoedd Slafaidd i siarad gyda'i gilydd.
  • Baneri sy'n cynnwys y lliwiau pan-Slafeg sef coch, gwyn a glas. Gwelir hyn mewn baneri cenedlaethol fel Rwsia, Serbia, Slofenia, Croasia, Tsiecia, a Slofacia.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ewrop. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.