Ceir pandemig (o'r Groeg παν pan, "holl" a δήμος demos "pobl") pan mae haint yn lledaenau trwy'r bpblogaeth ddynol ar draws ardal eang, er enghraifft cyfandir neu hyd yn oed trwy'r byd.

"The Chronicles of Gilles Li Muisis" (1272-1352). Bibliothèque royale de Belgique, MS 13076-77, f. 24v.

Yn ôl y WHO ceir pandemig pan mae:

  • haint sy'n newydd i'r boblogaeth a effeithir
  • yr haint yn effeithio ar bobl a'r effeithiau yn ddifrifol
  • yr haint yn medru lledaenu'n hawdd yn y boblogaeth

Un enghraifft o bandemig oedd y Fad Felen, a ymledodd ar draws Ewrop o'r Aifft yn y 6g. Lledaenodd y Pla Du o Asia i Ewrop yn 1348, a lladdodd 20 hyd 30 miliwn o Ewropeaid mewn chwe blynedd. Lledaenodd colera tu hwnt i India am y tro cyntaf ym mhandemig 18161826, gan ladd nifer fawr o bobl yn Tsieina; cyrhaeddodd yr ail bandemig yn 1829–1851 i Ewrop a Gogledd America. Bu pandemig o'r Ffliw Sbaenig yn 1918–1919, a ymledodd trwy'r byd; gan ladd 25 miliwn o bobl o fewn chwe mis.

Cafodd y frech wen ddylanwad mawr ar hanes cyfandir America. Nid oedd yn bod yno hyd nes iddi gyrraedd gyda'r Ewropeaid cyntaf, a chan nad oedd gan y trigolion brodorol wedi bod mewn cysylltiad a'r haint o'r blaen, lledaenodd yn gyflym gan achosi cyfran uchel o farwolaethau. Cred rhai ysgolheigion i rhwng 90% a 95% o boblogaeth frodorol America farw o heintiau Ewropeaidd, a'r frech wen oedd yn gyfrifol am y nifer fwyaf o farwolaethau. Roedd yn elfen bwysig ym muddugoliaeth y Sbaenwyr dros wareiddiadau'r Inca a'r Aztec.