Parc Caia

ystad fawr o dai cyngor a chymuned ym mwrdeisdref sirol Wrecsam

Ystad fawr o dai cyngor a chymuned ym mwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Parc Caia (Saesneg: Caia Park, gynt Queens Park). Saif yn ne-ddwyrain tref Wrecsam.

Parc Caia
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth12,602 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd258.31 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.045°N 2.973°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000893 Edit this on Wikidata
Map

Mae'n un o'r ystadau cyngor mwyaf yng Nghymru, gyda 5,000 o dai a phoblogaeth o dros 12,500, a hefyd yn un o'r ardaloedd tlotaf yng Nghymru. Yn 2003 bu terfysgoedd hiliol yma, gydag ymosodiadau ar fewnfudwyr o Irac. Carcharwyd 51 o bobl o ganlyniad i'r rhain.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Parc Caia (pob oed) (12,602)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Parc Caia) (1,070)
  
9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Parc Caia) (9217)
  
73.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Parc Caia) (2,118)
  
40.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]