Parc Cenedlaethol Eryri

parc cenedlaethol yng ngogledd Cymru

Sefydlwyd Parc Cenedlaethol Eryri ym 1951 fel y trydydd parc cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr. Mae'n un o dri pharc cenedlaethol yng Nghymru (gweler hefyd Bannau Brycheiniog a Phenfro). Mae ffiniau'r parc yn cynnwys tua 214,159 hectar (840 milltir sgwâr), ardal llawer ehangach na'r ardal a adwaenid fel Eryri yn hanesyddol.

Parc Cenedlaethol Eryri
Mathun o barciau cenedlaetho Cymru a Lloegr Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlEryri Edit this on Wikidata
Poblogaeth24,416 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1951 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,142 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.93°N 3.93°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW18000003 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethGwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol Edit this on Wikidata
Manylion
Erthygl am y parc cenedlaethol yw hon. Am yr ardal draddodiadol gweler Eryri.
Map o Barc Cenedlaethol Eryri
Parciau Cenedlaethol Cymru: 1. Eryri 2. Arfordir Sir Benfro 3. Bannau Brycheiniog.
Plas Tan y Bwlch, un o ganolfannau Parc Cenedlaethol Eryri

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn ymestyn dros 2,171 cilometr sgwâr dros ardaloedd Gwynedd a Chonwy, gydag oddeutu 25,000 o drigolion yn byw y tu mewn i’w ffiniau. Yng nghyfrifiad 2011, roedd 59% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg. Gyda miliynau o ymwelwyr yn dod pob blwyddyn, dyma'r trydydd parc cenedlaethol mwyaf poblogaidd drwy Gymru a Lloegr.

Yn Nhachwedd 2022, cyhoeddwyd y byddai'r awdurdod yn defnyddio ei enw Cymraeg 'Eryri' yn unig o hyn ymlaen.[1]

Rheolaeth golygu

Mae'r parc o dan rheolaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, sy'n cael ei redeg gan bwyllgor sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r awdurdodau lleol, sef Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Conwy, a Llywodraeth Cymru. Mae'r tir cyhoeddus a'r tir preifat ill dau o dan reolaeth yr un awdurdod cynllunio. Rhennir perchnogaeth tir yn y parc fel a ganlyn:

Llywodraethir Awdurdod y Parc gan 18 aelod, ac mae 9 o’r aelodau'n Gynghorwyr wedi’u penodi gan Gyngor Sir Gwynedd, 3 wedi’u penodi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a 6 aelod wedi’u henwebu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.[2][3] Yn 2014 roedd 93% o'i staff, 144 allan o gyfanswm o 155, yn medru siarad Cymraeg.

Yn y 1970au cynnar, yn dilyn ad-drefniant Llywodraeth Leol, daeth Parc Cenedlaethol Eryri yn adran o Gyngor Sir Gwynedd. Ym 1974 daeth cyfrifoldeb am gynllunio o dan adain y Parc Cenedlaethol. Prynodd y Parc Cenedlaethol dir mewn sawl safle poblogaidd er mwyn cynnig gwasanaethau i ymwelwyr gan gynnwys: Llyn Cwellyn, Llynnau Mymbyr, Betws y Coed, Beddgelert a Nant Peris, ac agorwyd Plas Tan y Bwlch fel canolfan astudio yn 1975. Lansiwyd cynllun bws Sherpa’r Wyddfa i ddatrys problemau parcio mewn safleoedd poblogaidd drwy gludo cerddwyr.

Math perchenogaeth siâr (%)
Preifat 69.9
Y Comisiwn Coedwigaeth 15.8
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 8.9
Cyngor Cefn Gwlad Cymru 1.7
Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri 1.2
Cwmniau dŵr 0.9
Eraill 1.6

Gyda chyllideb o oddeutu 6 miliwn, daw 75% gan Lywodraeth Cymru a'r gweddill trwy ardollau siroedd perthnasol.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Parc Cenedlaethol Eryri am ddefnyddio 'Eryri' a'r 'Wyddfa' wrth gyfathrebu'n Saesneg". Golwg360. 2022-11-16. Cyrchwyd 2023-04-17.
  2. "Eryri - Snowdonia". www.eryri.llyw.cymru. Cyrchwyd 2020-11-10.
  3. Dogfen iaith y Parc;[dolen marw] adalwyd 2 Mehefin 2014
  4. Gwefan y Parc; Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 2 Mehefin 2014.

Llyfryddiaeth golygu

  • W. M. Condry, The Snowdonia National Park, Cyfres New Naturalist (Llundain: Collins, 1966)
  • Gweler hefyd yr adran 'Darllen pellach' yn yr erthygl Eryri.

Dolenni allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.